Arloesedd go iawn: yr un peth nad ydyn ni wedi rhoi cynnig arno eto?
Jamie Smith yw Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesedd Hafod, ac mae’n rhan o Weithgor Arloesedd a ffurfiwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru fydd yn dynodi’r heriau sy’n wynebu pobl a chymunedau yng Nghymru ac yn edrych ar y syniadau sydd gan y sector tai i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
“Mae arloesedd yn ymdrech ar y cyd. Mae’n gweithio orau pan fo sefydliadau yn cronni eu gwybodaeth, rhannu eu hadnoddau a chwrdd yn y canol i ddatrys problem gyffredin. A gorau oll pa fo fwyaf amrywiol yw hi. Ond wrth gwrs mae llawer o bethau a all helpu neu lesteirio’r dod ynghyd hwnnw. Yn aml gydag arloesedd, diffyg capasiti ac offer i ddatrys problemau yw’r hyn sy’n ein gadael yn brin o wneud y newid sylweddol rydym i gyd ei eisiau.
“Pan ymunais â’r sector tai yn gymharol ddiweddar (yn 2018) fy argraff gyntaf oedd sector llawn syniadau a datrysiadau da ond heb bensaernïaeth arloesedd, dull gweithredu ar y cyd at ddatrys problemau neu’r symbyliad i’w creu.
“Nid yw tai o bell ffordd ar ei ben ei hun yn hyn o beth, ond rwy’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno na fydden ni’n cynllunio dull gweithredu lle mae sefydliadau’n gweithio ar eu pen eu hunain ar yr un heriau heb fawr o drawsbeilliad na rhannu dysgu neu hyd yn oed ffordd a gytunwyd ar gyfer diffinio beth yw’r heriau. Ni fyddai dull o’r fath byth yn uchafu gwerth buddsoddiad cyhoeddus, ond mae’n un yr ydym ni (a’n cymheiriaid yn y sector cyhoeddus) wedi parhau i lynu ato, er ein bod yn gwybod nad yw wedi rhoi llawer o fudd i ni.
“Pan glywais fod CHC yn dechrau rhaglen waith ar draws y sector i feithrin capasiti arloesedd a datblygu ymagwedd gyffredin, roeddwn i mewn … os byddent yn fy nghael.
“Roedd y gweithgor yn ymddangos fel cyfle i ddylanwadu ar y cyfeiriad gwaith a rhannu rhai o’r gwersi a ddysgais mewn sectorau eraill – ac wrth gwrs fanteisio ar brofiadau pobl eraill a mynd â pheth o’r dysgu yn ôl i fy nghymdeithas tai fy hunan.
“Fy ngobaith oedd y byddem yn dechrau’n fach ond yn dechrau’n wahanol, gan ddefnyddio dull a phroses arloesi go iawn a’u cymhwyso i broblem wedi’i diffinio’n dda. Mae hyn bob amser bron yn arwain at ddatrysiadau sy’n fwy addas i’r broblem a sydd â gwell cyfle o lwyddo. Er i’r pandemig dari rywfaint ar y cynllun ac y byddai wedi bod yn rhwydd ei roi yn y blwch ‘pan ddaw pethau’n ôl i’r arfer eto’, mae mor galonogol fod CHC a’r Gweithgor wedi parhau i gefnogi arloesedd dwy 2020 ac wedi dal ati beth bynnag.
“Mae llawer iawn o feddwl a dadansoddiad ar y cyd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn y pen draw wedi ein harwain at y broblem y byddwn yn symud ymlaen â hi fel sector. Mae’r broblem yn un bwysig, yn canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc ac mae’n sicr y bydd yn ysbrydoli syniadau newydd a gwerth chweil. Ond y pwynt, i fi o leiaf, yw beth bynnag y broblem, mae angen i ni ddefnyddio’r cyfle i ddysgu crefft arloesedd fel sector. Mae angen i ni ddod yn gyfarwydd gyda’r iaith, bod yn wir i dystiolaeth, croesawu methiant a derbyn y gallwn gyflawni mwy pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.
“Ni fyddai dim byd arall yn arloesedd”.
Gallwch fewnbynnu eich syniadau a’ch datrysiadau i’r her iechyd meddwl a ddynodwyd gan y Gweithgor yma.
Darganfyddwch mwy am y Peilot Arloesedd yma.