Jump to content

14 Chwefror 2020

Arloesedd da yn ymwneud â syrthio mewn cariad gyda'r broblem

Arloesedd da yn ymwneud â syrthio mewn cariad gyda'r broblem
Yn 2018 cymerodd Katie Teasdale ran yn rhaglen arloesedd y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol (NHF) - a alwyd bryd hynny yn Creating our Future. Ar ôl digwyddiad tri diwrnod 'hacathon' yn dysgu sut i ddatrys problemau ac ysgogi syniadau, cafodd ei dewis i ymuno â secondiad 16 mis lle cafodd 25 o bobl o bob rhan o'r sector tai y dasg o greu a datblygu syniadau i newid y byd. Mae Katie, Pennaeth Gwasanaethau Aelodau yn yr NHF, yn dweud beth ddigwyddodd nesaf:


"Cawsom ein rhannu yn dimau a dysgu'r sgiliau i arloesi drwy wneud - er mwyn mynd i'r afael â phroblem neilltuol o fewn y sector tai. Byddem wedyn yn symud ymlaen i gyflwyno ein syniadau mewn fformat ar arddull Dragon's Den yn yr Uwchgynhadledd Tai Genedlaethol a gwneud cais am fuddsoddwyr i ddatblygu ein syniad..


Roeddwn yn rhan o dîm Grym Pobl, a gafodd y dasg o ganfod datrysiad i ddod â'r premiwm tlodi i ben. Cawsom yr her gan y sector tai, yn cynnwys tenantiaid - oedd yn lleisiau allweddol wrth lunio'r rhaglen.


Fe wnaethom ddechrau ar unwaith i edrych yn fanwl ar y broblem a chasglu gwybodaeth. Yn y bythefnos cyntaf fe wnaethom siarad gyda dros cant o arbenigwyr am y premiwm tlodi, beth yw a sut mae'n effeithio ar bobl.


Fodd bynnag, pan wnaethom ddechrau siarad gyda tenantiaid y daeth ein llwybr yn glir. Gwelsom gynnydd enfawr yn y nifer oedd yn mynd yn newynnog yn ystod y gwyliau haf hwnnw. Fe wnaethom gwrdd gydag aelodau o'r gymuned, a ddisgrifiodd sut oedd y premiwm tlodi tanwydd wedi effeithio ar eu bywydau ac roedd y sioc i ddarganfod fod 49% o'r holl gredyd cost uchel yn cael ei wario ar fwyd.


Daeth yn amhosibl i lawer o bobl gael mynediad i fwyd ffres safon uchel a fforddiadwy. Fe wnaethom benderfynu mai dyna beth y byddem yn ceisio ei newid a dyna sut sut y byddem yn ceisio newid y byd.


Mae'r wybodaeth oedd gennym wedi dynodi cyfle arbennig: fe wnaethom siarad gyda thenantiaid incwm isel a ddywedodd faint oeddent yn mwynhau coginio, sut fod y sgiliau a'r offer ganddynt, ond na fedrent goginio iddynt eu hunain oherwydd cost bwyd.


Gan ddefnyddio pecynnau cymorth arloesi, gofyn am gyngor gan ein mentoriaid a help gan bron bawb yn y diwydiannau bwyd a diod, fe wnaethom ddatblygu The Good Food Bag.


Mae'r Good Food Bag yn fenter cymdeithasol sy'n ymroddedig i ymyrryd ar yr economi bwyd drwy helpu'r rhai y mae'r premiwm tlodi wedi effeithio arnynt. Drwy ddarparu rysetiau fforddiadwy, byddai teuluoedd incwm isel yn medru cael mynediad i goginio da, cyfleus i goginio prydau maethlon adref. Mae'n syniad syml ac mae'n harbrofion wedi dangos y gallai weithio.


Ar ôl cynnig llwyddiannus yn yr Uwchgynhadledd, roeddem yn hynod falch i dderbyn hyd yn oed fwy o gefnogaeth gan ein cymdeithasau tai sylfaenol: One Manchester, Irwell Valley, Magenta Living a Golding a wnaeth ryddhau eu staff i ddatblygu'r cysyniad am bron flwyddyn arall.


Ac wedyn - ar ôl llawer o waith - yn Ionawr 2019, penodwyd Rheolwr Gweithrediadau gan One Manchester ac Irwell Valley, yr anhygoel Jenni Poscai, i symud ymlaen gyda chynllun peilot blwyddyn o hyd fydd yn gweld The Good Food Bag yn dechrau masnachu ym Manceinion yn 2020.


Drwy'r rhaglen hon rydym wedi dysgu fod arloesedd am fwy na'r hyn a elwir yn ennydau bylb golau. Mae'n ymwneud â chasglu gwybodaeth, datblygu syniadau a'u deori mewn ffordd strwythuredig. Mae angen i ni arbrofi, gofyn cwestiynau a syrthio mewn cariad gyda'r broblem yn hytrach na'r syniad.


Mae'n rhywbeth y gall pawb ohonom ei wneud ac fe ddysgodd The Good Food Bag i mi y gallwn wneud i bethau da ddigwydd pan ydym yn syrthio mewn cariad gyda'r broblem."


Dewch yn rhan o rhaglen Dyfodol Tai yng Nghymru yma.