Jump to content

26 Mehefin 2025

Argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy

Heddiw cyhoeddodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd Cabinet Tai a Lywodraeth Leol, ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy yn llawn.

Dywedodd Hayley Macnamara, Arweinydd Polisi Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy a chymdeithasol a’r gweithredu cyflym i dderbyn holl argymhellion y Tasglu.

Mae hwn yn gam arwyddocaol sy’n cydnabod brys yr argyfwng tai a hefyd bwysigrwydd datrysiadau ar y cyd, ar draws y sector.

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn barod i ateb yr her. Mae ein haelodau yn parhau i gyflenwi 75% o’r holl gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn ac yn ymroddedig i wneud mwy.

Croesawn ffurfio’r grŵp gweithredu, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, fel cam nesaf hollbwysig. Rydym yn barod i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ehangach i drosi’r argymhellion yn weithredu penderfynol. Mae hynny yngolygu mynd i’r afael â rhwystrau parhaus yn y system cynllunio, gwella mynediad i dir,

mynd i’r afael â phrinder sgiliau a rhoi’r sicrwydd cyllid sydd ei angen i gyflymu cyflenwi’r cartrefi y mae angen mawr amdanynt yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at drafod yr argymhellion hyn a’r camau nesaf ymhellach gyda Lee Waters, cadeirydd y tasglu, yn ein Un Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf”.