Jump to content

05 Rhagfyr 2014

Archebwch yn eich lle am y Rali Tai fwyaf mewn cenhedlaeth

Nodyn i'r Dyddiadur
Dyddiad: 17 Mawrth 2015
Amser: 12 canol-dydd - 5:30pm
Ble: San Steffan, Llundain


Cynhelir y rali tai fwyaf mewn cenhedlaeth yn San Steffan ar 17 Mawrth 2015. Wedi'i threfnu gan Homes for Britain a'i chefnogi gan Cartrefi Cymunedol Cymru a CIH Cymru, daw'r digwyddiad â 2,500 o bobl ynghyd yn San Steffan i alw am 'ddiwedd i'r argyfwng tai o fewn cenhedlaeth'.
Awn â'n neges at wleidyddion yn fuan cyn yr Etholiad Cyffredinol a dymunwn i chi fod yn rhan o'r digwyddiad unigryw yma.
Daw'r rali â phob rhan o'r byd tai ynghyd - o ddatblygwyr preifat i ymgyrchwyr ar ddigartrefedd, o ddarparwyr tai cymdeithasol i landlordiaid preifat.
Gwahoddwyd arweinydd pob plaid wleidyddol i siarad yn y rali.
Er mwyn sicrhau fod Aelodau Seneddol Cymru yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ar y diwrnod y bydd tai yn ffocws allweddol yn San Steffan, rydym hefyd wedi trefnu derbyniad amser cinio ar gyfer Aelodau Seneddol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Bydd hwn yn gyfle gwych i roi darlun clir am sefyllfa tai ac adfywio yng Nghymru, tanlinellu ein cyfraniad ehangach i'r economi, canolbwyntio ar yr heriau a chyfleoedd ar y gorwel ac, yn bwysicach, y rôl rydym angen iddynt ei chwarae wrth sicrhau y gallwn barhau i fuddsoddi yn y cymunedau lleol a gwasanaethau.
I wneud cais am eich tocynnau, cysylltwch â liam-townsend@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.
Dymunwn i groestoriad o sefydliadau fod yn bresennol, felly byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn danfon y nodyn hwn ymlaen i’ch cysylltiadau tai ac adfywio.
Mae mwy o wybodaeth am ymgyrch Homes for Britain ar gael yn www.homesforbritain.org.uk