Araith y Brenin 2024 – y darpariaethau allweddol ar gyfer tai cymdeithasol Cymru
King Charles III reads the King's Speech, written by the government, at the State Opening of Parliament 2024. Copyright House of Lords 2024 / Photography by Roger Harris ©
Gwnaeth y Brenin Charles ei araith gyntaf ers i Llafur ddod i rym, yn dilyn etholiad cyffredinol 2024.
Gan amlinellu polisïau a deddfwriaeth arfaethedig y llywodraeth ar gyfer y sesiwn seneddol newydd, rhannodd y Brenin nifer o gynlluniau arwyddocaol ar gyfer tai yn y Deyrnas Unedig.
Yn amlycaf ar gyfer cymdeithasau tai Cymru, mae hyn yn cynnwys:
- bil cynllunio a seilwaith, sy’n cyhoeddi newidiadau sylfaenol i’r system cynllunio, i helpu datgloi datblygiadau a chynorthwyo cyflenwi cartrefi preifat a chymdeithasol;
- bil hawliau rhentwyr – deddfwriaeth newydd i sicrhau fod y sector rhent preifat yn darparu cartrefi diogel ar gyfer y rhai sydd eu hangen;
- drafft fil diwygio lesddaliad a cyfunddaliad;
- cynlluniau i gryfhau perthynas gyda phwerau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru gyda’r gobaith o wella cydweithio rhwng gwledydd.
Mae Araith y Brenin hefyd yn nodi ymagwedd bartneriaeth rhwng Llafur y DU a Llafur Cymru. Rydym eisoes yn gweld polisi cynllunio yn alinio, gyda Llafur Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar y cyflwynir bil newydd i gyfuno a symleiddio’r system erbyn diwedd tymor y Senedd.
Er fod pwerau i ddiwygio polisïau tai a chynllunio yng Nghymru wedi eu datganoli, disgwyliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried sut y gallai f od yn ddefnyddiol cyflwyno rhai o’r biliau a darpariaethau hyn yma.
Lawrlwythwch ein papur gwybodaeth i gael manylion pellach ar y mesurau hyn a mesurau eraill a fydd yn berthnasol i’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.