Jump to content

11 Ionawr 2021

Andrew Myatt & Serena Jones – Grŵp Cyflenwi Strategol Rheolaeth Tai

Andrew Myatt & Serena Jones – Grŵp Cyflenwi Strategol Rheolaeth Tai

Andrew Myatt yw Cadeirydd y Grŵp Cyflenwi Strategol Rheolaeth
Tai. Mae’r Grŵp yn canolbwyntio ar faterion yn cynnwys ymgysylltu â
thenantiaid, dadfeddiannu a’r Ddeddf Rhentu Cartrefi, ac mae’n cefnogi
CHC gyda gwaith lobïo ac eiriolaeth.


Ble ydych chi’n gweithio a beth ydych chi’n wneud?


Tai Calon fel Cyfarwyddydd Cymunedau a Thai.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?


Roeddwn yn ystyried dod yn gynllunydd tref ond sylweddolais fod pobl
yn llawer mwy diddorol nag adeiladau. Ar ôl bod yn y brifysgol, cefais
swydd fel hyfforddai tai gyda Chyngor Dinas Bryste ac yn mwynhau pob
munud.


Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi ei ddysgu ers i chi ddechrau eich gyrfa yn y sector tai?


Gwrando o ddifri er mwyn dysgu. Does dim cywilydd mewn peidio gwybod.
Parchu a gofalu amdanoch eich hun a bydd eraill yn gwneud yr un fath.
Gwenu a chwerthin yn aml.


Ble fyddech chi’n gweithio pe na fyddech chi yn y sector tai?


Rhedeg tyddyn yng nghefn gwlad Ffrainc. Tlawd ond hapus.


Beth yw’ch hoff ran o’r swydd?


Yr annisgwyl. Dyna mae gweithio gyda phobl yn eich roi i chi.


Beth sy’n eich cymell?


Y bydd y newid sylfaenol i gymdeithas mor annheg yn digwydd maes o law. A chariad at gaws.


Beth yw eich prif gamp?


Gwneud i bobl wenu. Weithiau.


Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn y Grŵp Rheolaeth Tai?


Rhannu syniadau, profiadau a barn mor agored. Nid yw’n teimlo fel bod
agenda bersonol neu sefydliadol. Mae cymorth a chyngor mor hygyrch.


Pam wnaethoch chi gyflwyno eich enw fel Cadeirydd?


I symud i ffwrdd o fusnes fel arfer.



Serena Jones yw Is-gadeirydd Grŵp Cyflenwi Strategol Rheolaeth Tai


Ble ydych chi’n gweithio a beth ydych chi’n wneud?


Tai Coastal. Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau – cyfrifol am dai, stadau a gwasanaethau cynnal a chadw 6000+ o gartrefi.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?


Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio mewn hostelau ar gyfer pobl ifanc
ddigartref yng nghanol Llundain oherwydd mod i’n actifydd a chyfiawnder
cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn fy nghymell.
Arhosais mewn tai cymdeithasol am yr un rheswm – tai fforddiadwy ansawdd
da yw conglfaen cymdeithas deg a chyfiawn.


Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi ei ddysgu ers i chi ddechrau eich gyrfa yn y sector tai?


Mae’n amhosibl dewis un peth. Mae fy ngyrfa i gyd wedi bod am ddysgu
(a dad-ddysgu) arferion a dulliau gweithredu. Felly efallai mai dyna’r
peth pwysicaf – bod yn agored bob amser i’r ffordd rydych yn gweithio
oherwydd fod bob amser ffyrdd i wella.


Ble fyddech chi’n gweithio pe na byddech chi yn y sector tai?


Mae gennyf freuddwydion am fod yn gyfreithwraig hawliau dynol, felly
efallai mai dyna fy swydd bydysawd amgen. Hynny, neu athrawes yoga corff
positif. Neu efallai’r ddau.


Beth yw’ch hoff ran o’r swydd?


Rwy’n arbennig o hoff o’n gwaith i sefydlu dulliau gweithredu adferol
i sut rydym yn meithrin, cynnal ac atgyweirio perthnasoedd a gymaint
cyfoethocach a mwy onest yw ein perthnasoedd gwaith fel canlyniad. Serch
hynny nid oes dim i guro mynd allan ac o amgylch gyda’r bobl ac rwy’n
edrych ymlaen at fynd nôl mas gyda’r timau stadau, trwsio a thai a
gwrando ar breswylwyr unwaith mai atgof yw COVID.


Beth sy’n eich cymell?


Cyfiawnder cymdeithasol a threchu diffyg cydraddoldeb; dewrder a bregusrwydd.


Beth yw eich prif gamp?


Nid wyf wedi cyflawni dim byd ar fy mhen fy hun. Rwy’n mynd i ddweud
rhywbeth gyffredinol yn hytrach na phenodol – drwy gydol fy ngyrfa rwyf
wedi bod y person sy’n barod i gwestiynu’r norm, herio’r confensiwn ac
(yn adeiladol gobeithio) feirniadu ymarfer a dulliau gweithredu. Nid yw
wedi fy ngwneud yn boblogaidd bob amser ond rwy’n gobeithio fy mod yn
cael fy nghymell drwy fod eisiau i bawb (yn fy nghynnwys i) wneud yn
well. Fy nghamp fwyaf felly fu erioed dderbyn y status quo.


Beth ydych chi fwyaf falch ohono o’r Grŵp RheolaethTai?


Y perthnasoedd y mae wedi helpu eu creu ar draws, a rhwng uwch dimau
tai gwahanol sefydliadau a’r ffordd mae hyn wedi hwyluso rhannu dysgu a
meithrin consensws. Roedd hynny’n golygu fod ganddom lwyfan ar gyfer
cydweithio pan darodd COVID ac rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr ar draws
sector tai Cymru am eu cyfraniadau i’r Grŵp a thu hwnt.


Pam wnaethoch chi gyflwyno eich enw i fod yn Is-gadeirydd?


Nid yw rheolaeth tai erioed wedi bod â phroffil mor uchel, o heriau
mynd i’r afael â digartrefedd, i ddyfarniadau a gweithgaredd
adfeddiannu, i osod rhenti a thaliadau gwasanaeth a’u fforddiadwyedd,
a’r gwersi rydyn ni’n dal i’w dysgu o Grenfell yn nhermau diogelwch
adeiladau, rheoli stadau a gwrando ar gwynion a phryderon. roedd yn
teimlo fel yr amser cywir i geisio cefnogi cyrsiau adeiladol yn y
meysydd hyn a thu hwnt.


Mae mwy o wybodaeth am y Grŵp Cyflenwi Strategol Rheolaeth Tai ar gael yma.