Andrew Bateson – Grŵp Cyflenwi Strategol Cartrefi’r Dyfodol
Andrew Bateson yw Cadeirydd Grŵp Cyflenwi Strategol Cartrefi’r Dyfodol sy’n cefnogi gwaith lobio ac eiriolaeth CHC.
Ble ydych chi’n gweithio a beth ydych chi’n wneud?
Rwy’n gweithio yng Nghymdeithas Tai Cadwyn. Rwy’n Gyfarwyddydd Asedau a Buddsoddiad sy’n golygu mod i’n bennaf gyfrifol am gynnal a chadw, gwella ein cartrefi presennol a darparu cartrefi newydd ac unrhyw ddatblygiad masnachol.
Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Rwy’n meddwl iddo ef fy newis i gan mai drwy ddamwain yr ymunais â’r sector. Roedd yn ddamwain hapus gan mod i wedi aros yn y sector am dros 27 mlynedd erbyn hyn.
Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi ei ddysgu ers i chi ddechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Newid yw’r unig beth cyson a’ch bod angen agwedd gallu gwneud er mwyn llwyddo.
Ble fyddech chi’n gweithio pe na fyddech chi yn y sector tai?
Yn y sector preifat fel syrfëwr siartredig.
Beth yw’ch hoff ran o’r swydd?
Gweld sut mae tai a gwasanaethau ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth i gyfleoedd bywyd pobl.
Beth sy’n eich cymell?
Darparu cartrefi a gwasanaethau ansawdd da.
Beth yw’ch camp fwyaf?
Cael fy nghyflwyno i’r Frenhines ar ôl i mi gymryd rhan mewn datblygu eiddo ar dir y Goron (flynyddoedd mawr yn ôl erbyn hyn!).
Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn y Grŵp Cartrefi’r Dyfodol?
Y ffordd mae’r grŵp wedi ymateb a chyfrannu at y newidiadau a gyflwynwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys Gofynion Ansawdd Datblygu, yr ymgynghoriad ar Safonau Ansawdd Tai Cymru, model hyfywedd, cynigion parthu a’r agenda datgarboneiddio.
Pam wnaethoch chi gyflwyno eich enw fel Cadeirydd?
Roeddwn wedi bod yn gadeirydd o’r blaen i Grwpiau Technegol CHC a bob amser wedi mwynhau’r profiad. Hefyd mae’n gyfle gwych i helpu llunio polisi ar lefel genedlaethol.
Mae mwy o wybodaeth am Grŵp Cyflenwi Strategol Cartrefi’r Dyfodol ar gael yma.