Jump to content

08 Chwefror 2019

#AmseriSiarad

#AmseriSiarad
Ymysg y cannoedd o ddyddiau ymwybyddiaeth sy'n llenwi'r calendr, roedd diwrnod "Amser i Siarad" eleni ar 7 Chwefror.


Mae Amser i Siarad yn ymgyrch genedlaethol a gaiff ei harwain yng Nghymru gan Mind Cymru a Hafal a'i rhan-ariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i eistedd lawr gyda'i gilydd a siarad am iechyd meddwl a'r materion o'i amgylch.


Daeth dyddiau ymwybyddiaeth fel hyn yn fwy a mwy cyffredin mewn blynyddoedd diweddar; ychydig wythnosau yn ôl oedd Dydd Llun Diflas, a gafodd ei hawlio mewn modd ardderchog gan y Samariaid o'i darddiad fel ymgyrch archebu gwyliau.


Mae dyddiau ymwybyddiaeth fel hyn yn syniad da ac efallai y gallai cael diwrnod wedi'i glustnodi i annog sgyrsiau am iechyd meddwl fynd beth o'r ffordd i chwalu'r stigma am wahanol fathau o salwch. Er y gall siarad gyda cyfaill neu gydweithiwr helpu, efallai nad yw hynny'n ddigon mewn llawer o sefyllfaoedd ac mae cefnogaeth a thriniaeth iawn yn hanfodol.


Mae iselder a phryder yn gyffredin tu hwnt a gall cysylltu â rhywun sy'n dioddef wneud gwahaniaeth enfawr, ond nid nhw yw'r unig fathau o salwch meddwl. Er mwyn targedu rhai o'r cyflyrau iechyd meddwl a esgeulusir fwyaf, mae angen buddsoddi mewn rhaglenni cefnogaeth, cyllido triniaethau iechyd meddwl fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol neu Ddialectig, mwy o welyau i fewngleifion yng nghanolfannau triniaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwell dealltwriaeth o'r ystod o fathau o salwch all effeithio ar bobl.


Ni allai meddyg nad yw ond yn gwybod am ganser yr ysgyfaint helpu rhywun gydag afiechyd y galon, yn yr un ffordd mae'n annhebyg na fyddai meddyg sydd ond yn gwybod am iselder yn medru rhoi triniaeth ddigonol i rywun gydag anhwylder sgitsoeffeithiol. Ond nes y byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle gall y GIG roi pob triniaeth angenrheidiol ar gyfer yr holl afiechydon meddwl sy'n effeithio ar bobl, mae'r dasg o gefnogi pobl yn aml yn syrthio i sefydliadau di-elw, yn cynnwys cymdeithasau tai.


Mae rhai o'r cynlluniau a sefydlwyd gan gymdeithasau tai yn gwneud llawer mwy na dim ond annog sgwrs; maent yn rhoi gofod diogel, yn addysgu sgiliau i bobl drin rhai o symptomau salwch meddwl a sicrhau fod gan bobl berthnasoedd y gall pobl ymddiried ynddynt.


Un enghraifft o hyn yw gwaith United Welsh sydd wedi dechrau prosiect yn ddiweddar gyda myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru i fynd i'r afael ag achosion gwraidd celcian. Mae hyn yn ffordd newydd o drin celcian ac yn hollol wahanol i'r dull "glanhau a chlirio" a ddefnyddir fel arfer, er nad yw'n gwneud fawr i ddatrys y problemau sydd wedi sbarduno'r celcian yn y lle cyntaf. Mae prosiectau fel hyn yn dangos sut mae cymdeithasau tai yn cymryd camau arloesol ymlaen i gefnogi tenantiaid, gan edrych ar wahanol dechnegau a dulliau o drin gwahanol gyflyrau iechyd meddwl.


Amcangyfrifir y bydd cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar 1 mewn 4 o bobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, sy'n gyfran enfawr o'r boblogaeth. Mae triniaeth effeithlon ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o fathau salwch meddwl, ond nid yw bob amser yn rhwydd am nifer o resymau i gael mynediad i'r driniaeth honno.


Dylai #AmseriSiarad fod yn gyfle i agor trafodaeth ar i bobl gael y driniaeth maent ei hangen, siarad am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n cael problemau iechyd meddwl ac yn bwysicaf oll, dylid ei weld fel mwy na dim ond amser siarad, ond amser gweithredu.