Jump to content

13 Tachwedd 2018

Amserau ansicr

Amserau ansicr
Os ydym wedi dysgu unrhyw beth dros yr ychydig flynyddoedd ddiwethaf, na fedrwch chi gredu'r polau barn yw hynny. Mae pobl yn newid eu meddyliau yn y blwch pleidleisio ac nid yw polau barn mor gywir ag yr hoffem gredu. Ond roedd y polau yr wythnos ddiwethaf cyn etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau yn weddol agos at eu lle, gan alluogi'r Democratiaid i roi ochenaid o ryddhad ac ymlacio ychydig gan wybod eu bod wedi adennill rheolaeth o Dŷ'r Cynrychiolwyr ac y gallant ei gwneud yn anos i'r Arlywydd basio deddfwriaeth.


Roedd llawer o Ddemocratiaid yn ofni gobeithio y gallai'r etholiadau canol tymor fynd eu ffordd nhw ac roedd llawer siomedigaeth yn dal i fod. Ni ddigwyddodd y "don las" a ddisgwyliai rhai, ac ni wnaeth y Democratiaid ennill rai gornestau y gobeithient eu sicrhau, yn cynnwys ras llywodraethwr Florida, lle collodd Andrew Gillum gan hanner pwynt canran.


Gan fod llawer o bobl wedi cael llond bol ar faint o sylw a gawn ar ddigwyddiadau yn yr Unol Daleithiau a dydw i ddim eisiau ychwanegu at hynny, ond mae'r etholiadau canol tymor yn ddangosydd pwysig nad yw digwyddiadau 2016, blwyddyn a rannodd ddinasyddion gwledydd y ddwy ochr i'r Iwerydd, wedi eu datrys eto. Mae'r Unol Daleithiau yn dal yn rhanedig; mae'r Arlywydd Trump yn dal i fod â llawer iawn o gefnogaeth ac mae canlyniadau'r etholiadau canol tymor yn golygu fod yr Unol Daleithiau mewn ychydig o ferddwr gwleidyddol. Mae pethau'n bur ansicr ac mae gan y Democratiaid yn bendant lawer o waith i'w wneud wrth benderfynu pwy i'w gyflwyno fel eu hymgeisydd arlywyddol yn 2020.


Nid yw'r ansicrwydd gwleidyddol wedi ei gyfyngu i'r Unol Daleithiau; mae'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa weddol debyg mewn llawer o ffyrdd yng nghyswllt yr ansicrwydd o amgylch Brexit - p'un ai a fydd cytundeb, beth fydd yn ei olygu, p'un ai a fydd ail refferendwm neu p'un ai a fydd Brexit yn digwydd o gwbl.


Cyhoeddwyd canlyniadau pôl Survation ar Brexit yr wythnos ddiwethaf, gan ddangos fod 54% o'r rhai a arolygwyd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd (pan dynnwyd y rhai a atebodd "dim yn gwybod" allan o'r canlyniadau). Comisiynwyd hyn gan Channel Four ar gyfer rhaglen am farn bresennol y Deyrnas Unedig ar Brexit ac mae'n un o'r polau barn cyhoeddus mwyaf ar y pwnc ers y refferendwm ei hun. Nid yw'r newid barn hwn wedi ei gyfyngu i rai rhannau o'r Deyrnas Unedig chwaith, gan i arolwg ar wahân gan YouGov ddangos fod 51% o etholwyr Cymru nawr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn i'w gymharu â'r 52.5% a bleidleisiodd adael yn y refferendwm yn 2016. Er nad yw hyn yn newid enfawr mewn rhai ffyrdd, mae'n dal i fod yn ddigon o newid i fod yn arwyddocaol, gan achosi mwy o ansicrwydd os oes mandad cyhoeddus yn dal i fod dros adael yr Undeb Ewropeaidd.


Gyda phopeth arall sy'n mynd ymlaen, efallai na wnaethoch sylwi fod Llafur Cymru ar ganol etholiad arweinyddiaeth; y blaid olaf yn y Cynulliad i ethol eu harweinydd newydd eleni. Roedd pethau'n ymddangos yn eithaf clir ar y dechrau; roedd Mark Drakeford wedi derbyn cefnogaeth nifer fwyaf o ddigon ei gydweithwyr yn y Cynulliad, gan ennill 17 enwebiad i'r 6 yr un a gafodd Vaughan Gething ac Eluned Morgan. Fodd bynnag, mae pôl diweddar ar gyfer ITV wedi dangos mai Eluned Morgan sydd ar y blaen a Mark Drakeford olaf, er nid gan fawr iawn (9% o'r bleidlais i Eluned Morgan, 8% i Vaughan Gething a 5% i Mark Drakeford). Aeth y gyfran fwyaf o'r pleidleisiau yn yr arolwg i "Dim yn gwybod", a ddewiswyd gan 57% o ymatebwyr.


Er fod cyfran lai o'r boblogaeth yn pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad fel arfer, ymddengys fod apathi yn teyrnasu'r ras arweinyddiaeth yma ymysg pleidleiswyr Cymru. Er mai dim ond aelodau Llafur sydd â phleidlais ar bwy ddaw'n arweinydd (ac felly'r Prif Weinidog tebygol), bydd yr etholiad hwn yn effeithio ar bawb yng Nghymru, felly mae'n debyg fod y diffyg diddordeb a brwdfrydedd am y bleidlais yn destun siom i'r ymgeiswyr. Os nad yw'r ychydig wythnosau nesaf o ymgyrchu yn sbarduno ton o frwdfrydedd, caiff y Prif Weinidog nesaf ei ddewis gan gyfran fach iawn o bobl heb fawr ddim ymgysylltu gan y cyhoedd.


Bydd yr Unol Daleithiau yn pleidleisio ar gyfer ei Arlywydd nesaf cyn y caiff y cyhoedd yng Nghymru gyfle i roi eu barn ar arweinydd newydd Llafur Cymru yn y blwch pleidleisio; erys i'w weld p'un ai fydd y polau ar Brexit yn ein harwain lawer y llwybr i bleidlais fawr arall cyn hynny.