Jump to content

09 Awst 2017

Ail-lansio ymgyrch Gadewch i Ni Barhau i Gefnogi Pobl

Ynghyd â Cymorth Cymru rydym wedi ail-lansio ymgyrch Gadewch i Ni Barhau i Gefnogi Pobl.

Mae'r rhain yn ychydig fisoedd tyngedfennol i'r gyllideb Cefnogi Pobl, wrth i Lywodraeth Cymru edrych am arbedion cost ar draws pob adran cyn cyflwyno eu drafft gyllideb ym mis Hydref.

Mae'n hollol hanfodol ein bod yn cydweithio i ddangos pwysigrwydd y gronfa Cefnogi Pobl a'r gwahaniaeth a wnaiff i fywydau pobl.

Mae CHC a Cymorth Cymru yn ymroddedig i arwain yr ymgyrch yn genedlaethol - ond rydym angen eich help yn lleol. Lawrlwythwch y pecyn ymgyrch yn awr, sy'n rhoi sylw i nifer o gamau gweithredu y gallwch eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch.

Cysylltwch â Hugh Russell hugh-russell@chcymru.org.uk neu Rebecca Goodhand Rebecca-goodhand@chcymru.org.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.