Jump to content

21 Mehefin 2017

Adwaith CCC i Araith y Frenhines

Mae'r Frenhines wedi cyflwyno Araith y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd y bore yma. Mae'r araith yn cynnwys 27 Bil a drafft Bil, a'r pwyntiau allweddol o'r araith yw:

  • Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno Bil i ddiddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd a 'rhoi sicrwydd i unigolion a busnesau'
  • Cyflwynir Biliau pellach ar fewnfudo, sancsiynau cymdeithasol, mesurau diogelu niwclear, amaethyddiaeth a physgodfeydd a masnach fel rhan o broses Brexit
  • Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig
  • Bydd y Llywodraeth yn parhau i gynyddu'r isafswm cyflog cenedlaethol ac yn anelu i gynyddu hawliau yn y gweithle, yn ogystal â chyhoeddi strategaeth ddiwydiannol fodern a cheisio denu buddsoddiad yn y seilwaith
  • Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar gynigion i ostwng biliau ynni a chyllido gofal cymdeithasol yn Lloegr yn y dyfodol
  • Cynhelir ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r digwyddiad yn Grenfell Tower

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: 'Yn dilyn Araith y Frenhines heddiw, mae'n glir y bydd Brexit yn dominyddu'r agenda deddfwriaethol am y ddwy flynedd nesaf. Mae'n rhaid i ni sicrhau fod Aelodau Seneddol Cymru yn llwyr ymwybodol o effaith parhaus diwygio llesiant ar draws cymunedau Cymru, yn neilltuol gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol a chapio budd-dal tai ar gyfraddau Lwfans Tai lleol ym mis Ebrill 2019.

Byddwn hefyd yn cadw golwg agos ar effaith trafodaethau Brexit a'r effaith posibl yng Nghymru, yn arbennig ar adeiladu.

Ail-lansiwyd cynghrair Cartrefi i Gymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol mis Mehefin, yn galw am system les sy'n sicrhau y gall pawb gael mynediad i gartref fforddiadwy a chefnogaeth ar gyfer y diwydiant adeiladu fel y gall gael mynediad i'r deunyddiau a'r llafur mae eu hangen i adeiladu cartrefi fforddiadwy.

Mae'n hanfodol na fydd penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn cael effaith niweidiol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Seneddol Cymru yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol. Rydym wedi cadarnhau nifer o gyfarfodydd dechreuol a rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer digwyddiad yn San Steffan yn ddiweddarach eleni.'

Cynhelir cyfres o drafodaethau ar Araith y Frenhines yn y Senedd dros y dyddiau nesaf gyda phleidleisiau ar yr araith ar 28 a 29 Mehefin.