Jump to content

19 Rhagfyr 2014

Adroddiad Taliadau Uniongyrchol yn datgelu bygythiad i gyllid cymdeithasau tai

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi'r canfyddiadau diweddaraf o'u Prosiectau Arddangos Taliadau Unionigyrchol (DPDP). Dengys y canfyddiadau annibynnol i daliadau uniongyrchol yn y DPDP gael effaith ariannol ar landlordiaid gyda chyfanswm o £1.9m o rent yn ddyledus dros y cyfnod o 18 mis. Dywedodd yr adroddiad hefyd fod y sefyllfa'n golygu cynnydd o 100% neu fwy yng nghyfradd ôl-ddyledion rhai landlordiaid ac y gall gwargedion ariannol gael eu herydu, ac y gallai'r canlyniadau i allu cymdeithasau tai i adeiladu ac effaith talu'n hwyr/dim talu digon ar lif arian achosi problemau sylweddol i landlordiaid bach.
Bydd CHC yn parhau i lobio am system les decach, yn cynnwys cynnig dewis i'r tenant am dalu'n anuniongyrchol.
Medrir gweld yr adroddiad llawn ar wefan y DWP:

https://www.gov.uk/government/publications/direct-payment-demonstration-projects-final-reports