Adroddiad newydd gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn gwneud argymhellion i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru
Mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi ei ail adroddiad ar ddigartrefedd heddiw.
Mae 13 o arbenigwyr yn aelodau o’r Grŵp Gweithredu, yn cynnwys Clarissa Corbisiero ein Cyfarwyddydd Polisi a Dirprwy Brif Weithredydd, ac fe’i sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar y camau sydd eu hangen i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhellion a nodir yn adroddiad heddiw, sef:
- cymryd dull rhagweithiol a seiliedig ar hawliau at ddigartrefedd
- mynd i’r afael â’r amgylchiadau a all arwain at ddigartrefedd, megis tlodi plant a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- sicrhau fod digon o gartrefi fforddiadwy ar gael fel y daw cartref digonol yn rhywbeth y dylai pawb ei ddisgwyl
- atal achosion o droi allan rhag datblygu’n ddigartrefedd o dai y mae’r wladwriaeth yn talu amdanynt neu’n eu cefnogi
- ataliaeth wedi’i dargedu, sy’n golygu cymryd camau penodol i atal digartrefedd ymysg y grwpiau o bobl sydd fwyaf mewn risg
- dulliau cydlynus ar draws gwasanaethau cyhoeddus i weithredu ‘llwybrau’ sy’n cefnogi pobl i osgoi digartrefedd
- ymestyn dyletswyddau atal i bob corff cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i ailgartrefu pobl yn gyflym sydd mewn risg o, neu sy’n profi digartrefedd, fel mai dim ond rhywbeth prin, byr ac na chaiff ei ailadrodd fydd digartrefedd.
Mae rhestr lawn o argymhellion ar gael yma.
Yng Nghymru, caiff tua dau draean yr achosion o ddigartrefedd a gofnodwyd ei atal gan waith caled timau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol a phreifat.
Mae’r Grŵp Gweithredu yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu i fynd â’r argymhellion hyn rhagddynt, gan osod uchelgais i ddod â digartrefedd i ben ynghyd â chytundebau ymarferol ar gyllid a sut y cyflwynir newidiadau dros gyfnod.
Dywedodd Clarissa Corbisiero:
“Ni ddylai unrhyw un fod heb gartref diogel, fforddiadwy ac addas. Os caiff yr argymhellion yn yr adroddiad hwn eu gweithredu’n llawn, byddant yn ein helpu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru am byth.
Mae digartrefedd yn broblem gwasanaeth cyhoeddus. Mae cymdeithasau tai eisiau parhau i chwarae eu rhan, gan weithio gyda phartneriaid i atal a lliniaru digartrefedd lle bynnag mae’n codi.
Y cam nesaf yw cynyddu cyllid ar gyfer y Grant Cymorth Tai, sy’n cefnogi’r gwasanaethau hollbwysig sy’n hanfodol i atal digartrefedd”.