Jump to content

04 Tachwedd 2016

Adroddiad Cynnydd Chwarterol - Gorffennaf - mis Medi 2016

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi'r ail adroddiad cynnydd chwarterol ar gynllun corfforaethol 2016-19. Fel rhan o'n hymrwymiad i aelodau, byddwn yn rhoi adroddiad chwarterol ar lwyddiannau a cherrig milltir allweddol a gyflawnwyd ar ein blaenoriaethau yn y cynllun corfforaethol.

Cipolwg ar fis Gorffennaf - mis Medi 2016

  • Cytuniad Tai - cynnydd yn mynd rhagddo'n dda ac anelwn lansio'r cytuniad ym mis Tachwedd.
  • Ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol - dosbarthwyd y sector ym mis Medi. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau agwedd addas newydd at reoleiddio gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau y cewch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy bapur gwybodaeth i aelodau a dogfen cwestiynau cyffredin mewn cysylltiad â Devonshires
  • Lansiwyd canllawiau Gwerth am Arian mewn cysylltiad â HouseMark.
  • Cynhaliwyd cyfarfod cynhyrchiol gydag Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru i drafod safonau'r sector.
  • Diogelu rhaglen Cefnogi Pobl yng nghyllideb ddrafft Cymru.
  • Lansio CHC fel canolfan hyfforddiant Agored Cymru gyda phedwar partner aelod wedi cofrestru hyd yma.

Gallwch weld yr ail adroddiad chwarterol yma.