Jump to content

15 Tachwedd 2018

Adolygiad Tai Fforddiadwy yn 'cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'

Adolygiad Tai Fforddiadwy yn 'cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
Araith llawn Stuart Ropke o Cynhadledd Flynyddol 2018:


Prynhawn da bawb, a chroeso cynnes i'n Cynhadledd Flynyddol


Yr adeg hon y llynedd, siaradais o'r llwyfan yma am y flwyddyn hynod a fu 2017. Blwyddyn o derfysg, dwysedd a drama wleidyddol unigryw. Roeddem yn agosáu at 2018 yn dal i siglo o'r drychineb yn Nhŵr Grenfell, ansicrwydd am ein perthynas yn y dyfodol gyda Ewrop, a gyda ansefydlogrwydd gwleidyddol byd-eang o'n cwmpas.


Wn i ddim amdanoch chi ond nid yw'r 12 mis diwethaf wedi fy ngadael yn teimlo'n ddim mwy optimistig ein bod yn ddim nes at ddatrys y llu o gwestiynau mawr sy'n ein hwynebu fel cenedl.


Felly, gyda ymddiswyddiadau lluosog o gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig, cynllwynio gwleidyddol o amgylch Brexit yn ymdebygu i ddull od o artaith, ac yma yng Nghymru, penodi Prif Weinidog newydd o fewn ychydig wythnosau, ymddengys mai'r unig beth y gallwn fod yn sicr ohono yn 2018 yw ansicrwydd.


Ond mae o leiaf un peth rwy'n parhau'n dragwyddol optimistig amdano: gallu a dymuniad cymdeithasau tai i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.


Dengys canfyddiadau cynnar o'n hymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort, a gyhoeddwn yn ddiweddarach eleni, fod cymdeithasau tai wedi cyfrannu mwy na £2bn i economi Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gwario mwy na £440m ar adfywio cymunedau, a chefnogi mwy na 23,000 o swyddi ar draws Cymru.


Rydym wedi parhau i gyflawni ar ein cytundeb gyda Llywodraeth Cymru, ac er y bu heriau sy'n golygu y bu gostyngiad bach yn nifer y cartrefi y gwnaethom eu hadeiladu eleni, rydym ar y targed i gyflawni yr uchelgais a rannwn o 20,000 o gartrefi yn nhymor hwn y Cynulliad. Nid oes gen i ddim amheuaeth o gwbl y byddwn yn cyflawni.


Fodd bynnag, gwn fod gan bawb yn yr ystafell yma uchelgeisiau ymhell tu hwnt i hyn.


Flwyddyn yn ôl, fe wnaethom lansio ein Gorwelion Tai. Gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Cymru lle mae cartref da yn arwain at well iechyd, cynnydd mewn ffyniant a chymunedau mwy cysylltiedig.


Roedd yn ddatganiad beiddgar o fwriad am ein huchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi dros yr ugain mlynedd nesaf, gyda gweithredu cyson ar ostwng carbon a buddsoddi yn sylfeini economi Cymru.


Roedd y weledigaeth yn gosod her i gymdeithasau tai a hefyd ein partneriaid yn y Llywodraeth a thu hwnt i godi ein golygon a'n huchelgais. Roeddem yn hynod falch i Lywodraeth Cymru ymateb yn gadarnhaol i'n galwad am adolygiad annibynnol o bolisi tai yng Nghymru.


Rwy'n hynod falch fod Lynn Pamment, Cadeirydd yr Adolygiad, a nifer o'i chydweithwyr ar y panel adolygu gyda ni yn y gynhadledd, ac edrychwn ymlaen at glywed llawer mwy ganddynt dros y ddeuddydd nesaf.


Mae'r Adolygiad wedi rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni i gymryd golwg holistig ar bolisi tai yng Nghymru. Mae'n rhaid gafael yn y cyfle hwnnw.


Daeth y panel â her annibynnol a gofyn cwestiynau caled i bawb ohonom ar faterion fel rhenti, grantiau a safonau. Ac rydych wedi ymateb i'r her honno fel sector.


Ymunodd mwy na 200 ohonoch â ni dros yr haf, mewn digwyddiadau a gweminarau, i lunio ein hymateb i Alwad am Dystiolaeth yr Adolygiad. Daeth tair thema i'r amlwg yn ein hymateb. Hyblygrwydd, Cydweithio a Sicrwydd.


Hoffwn siarad am bob un o'r themâu hynny. Ac rwyf eisiau cychwyn gyda hyblygrwydd a'i bwysigrwydd ar gyfer polisi rhent a buddsoddiad cyfalaf.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru bob amser yn rhoi tegwch a chyfiawnder cymdeithasol wrth galon eu polisi rhent. Felly mae'n hanfodol fod gennym bolisi sy'n galluogi cymdeithasau tai i gydbwyso heriau fforddiadwyedd, hyblygrwydd a buddsoddiad mewn cartrefi a gwasanaethau cymunedol newydd.


Mae'r her i Lywodraeth Cymru wrth osod polisi rhent sy'n addas ar gyfer Cymru gyfan, bob blwyddyn, yn enfawr. Mae'r argyfwng tai yn amlygu ei hunan mewn ffyrdd gwahanol iawn ar draws y wlad ac ar draws gwahanol farchnadoedd tai. Mae'n amser rhoi rhyddid i gymdeithasau tai ymateb i amgylchiadau neilltuol y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Byddai hynny yn rhoi sicrwydd nid yn unig ar gyfer busnes, ond i denantiaid hefyd.


Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ei phenderfyniad am y setliad rhent trosiannol, mae'n bwysig na chaiff effeithiau hirdymor penderfyniadau tymor byr eu bychanu. Effeithiau ar gapasiti, ar barodrwydd benthycwyr a buddsoddwyr i gyfeirio symiau enfawr o arian drwy gymdeithasau tai i rai o ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru. Ac effeithiau ar ffyrdd o feddwl byrddau cymdeithasau tai sydd gyda'r hyder fod Cymru'n cael a deall pwysigrwydd amgylchedd polisi sefydlog wedi dangos parodrwydd i dyfu eu busnesau a gwneud mwy.


Yn y tymor hwy, byddai polisi rhent hyblyg gyda throsolwg cryf gan y rheoleiddiwr yn annog sgwrs go iawn am fforddiadwyedd gyda thenantiaid ar lefel leol. Byddai'n galluogi cymdeithasau tai i osod eu strategaeth ar gyfer yr hirdymor yn dangos sut y byddent yn buddsoddi adnoddau a gweithredu fel sefydliadau angor yn eu cymuned.


Ac wrth gwrs, gwyddom y byddai hyblygrwydd yn dod â heriau hefyd. Byddai'n gwneud byrddau'n fwy atebol am eu penderfyniadau, byddai angen mwy o dryloywder, a byddai'n sicrhau ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hanfodol hynny am effeithiolrwydd a'r gwerth am arian a gynigiwn i denantiaid. Peidied neb â chamgymryd, rydym yn barod am yr her honno a chredaf y byddai'r trylwyredd y byddai'r system yn ei roi yn iach ar gyfer y sector a'r bobl y bodolwn i'w gwasanaethu.


Ac nid dim ond mewn polisi rhent y gwnaethom ddweud wrthym fod angen mwy o hyblygrwydd.


Mae record Llywodraeth Cymru ar fuddsoddiad mewn tai heb ei ail ar draws y Deyrnas Unedig. Gyda mwy na £1.5bn yn mynd i'r sector tai yn nhymor hwn y Cynulliad, mae'n gydnabyddiaeth o'ch gallu i gyflawni a'r consensws yr ydym wedi'i gyrraedd a'i adeiladu gyda'n gilydd am yr angen i fuddsoddi mewn tai da.


Ond gwnaethoch ddweud wrthym fod y system bresennol o gyfraddau grant sefydlog yn eich cyfyngu.


Mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent a Merthyr, clywsom y caiff hyfywedd cynlluniau ei fygwth gan ddull gweithredu cyfradd grant sefydlog, a bod ardaloedd sydd mewn angen dybryd o fuddsoddiad ar eu colled. Mewn marchnad dwf fel Sir Fynwy, clywsom fod rhuthr galw a'r cynnydd mewn prisiau tir a ddaeth yn sgil diddymu tollau Pont Hafren yn golygu bod cymdeithasau tai yn cael eu prisio mas o rai cynlluniau, gan olygu y bydd cymunedau lle mae'r argyfwng tai yn gwaethygu wrth y dydd yn colli mas ar dai cymdeithasol.


Clywsom hefyd am ddymuniad clir i ymestyn buddsoddiad cyhoeddus ymhellach, gan ddarparu datrysiadau ar draws y farchnad tai, diwallu eich diben craidd fel cymdeithasau tai fel adeiladwyr tai cymdeithasol ond hefyd ddarparu lleoedd a chymunedau gwych, ac ailgylchu'r arian hwnnw i ddarparu mwy o gartrefi nag a fyddech wedi'i wneud fel arall.


Mae'r Adolygiad hefyd wedi rhoi cyfle i ystyried sut mae tai fforddiadwy yn cael eu darparu mewn mannau eraill. Yn neilltuol, mae rôl Homes England wrth ddarparu partneriaethau strategol hirdymor, gan roi sicrwydd cyllid a chymysgedd o gynlluniau ar draws y farchnad yn un model sydd wedi ysgogi diddordeb llawer.


Dywedais sawl tro fod Cymru wedi arwain y ffordd ar bolisi tai yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw hyn yn golygu y dylai'n meddyliau fod wedi cau i syniadau o fannau eraill, fydd wrth gwrs angen eu mireinio a gwneud iddynt weithio i Gymru.


Gwyddom na allwn drechu'r argyfwng tai ar ein pen ein hunain ac yn ogystal â dysgu gwersi o fannau eraill, mae'n rhaid i ni barhau i gydweithio gyda'n partneriaid mewn iechyd a llywodraeth leol, gyda'r sector preifat, a gyda'n gilydd. A chydweithio oedd yr ail thema glir a ddaeth i'r amlwg yn ein gwaith ar yr adolygiad.


Mae cydweithio yn hanfodol i gyflawni'r raddfa sydd ei hangen i ddatgloi dulliau blaengar o adeiladu yn cynnwys ffatrïoedd yng Nghymru yn cynhyrchu cartrefi i ffwrdd o'r safle. Gwn fod potensial enfawr i gymdeithasau tai gydweithio ar ddatblygu a sgiliau adeiladu i oresgyn yr heriau sy'n dod.


Nid yw hyn yn golygu glastwreiddio diwylliant, cenhadaeth a diben cymdeithasol sefydliadau unigol ond rhannu adnoddau a datblygu syniadau newydd gyda'n gilydd mewn ffordd gyda ffocws sy'n rhoi canlyniadau cadarn.


Ond i fi, y cydweithio pwysicaf y mae'n rhaid i ni ei ddatgloi yw gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol. Mae cyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn gynharach eleni y byddai ei Llywodraeth yn diddymu'r cap benthyca Cyfrif Refeniw Tai ar awdurdodau lleol yn un o'r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol mewn polisi tai ers cryn amser, ac yn un y rhoddodd Cartrefi Cymunedol Cymru groeso cynnes iddo.


Enciliad y wladwriaeth o adeiladu cartrefi newydd yw'r prif reswm ein bod yn wynebu'r argyfwng tai a wnawn heddiw. Os oes gennym wir uchelgais i ddatrys yr argyfwng hwn, bydd capasiti benthyca awdurdodau lleol yn hanfodol. Mae angen i bawb gymryd eu rhan. Fel sector, mae gennym y sgiliau, y capasiti a'r dymuniad i helpu dod â'r argyfwng tai i ben, ac mae cymdeithasau tai yn sefyll yn barod i weithio gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol ar draws Cymru yn y gyd-ymdrech.


Gan gydweithio, mae gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol y gallu i wella bywydau miloedd o bobl sydd angen cartrefi da.


Mae'r Adolygiad yn gywir i'n herio pam nad yw cydweithio yn digwydd i'w botensial llawn eisoes. Yn yr wythnosau nesaf byddwn yn lansio cyhoeddiad ar y cyd gyda Savills sy'n ein helpu i ddeall rhai o'r cyfyngiadau. Bydd yn edrych sut y gallwn ddysgu gan gymdeithasau tai sy'n cydweithio mewn mannau eraill a sut y gallwn wneud i gydweithio ddigwydd.


Ond mae eisoes enghreifftiau rhagorol y gallwn adeiladu arnynt a dysgu ohonynt yma yng Nghymru. Y gwaith rhagorol sy'n digwydd eisoes yn y Gogledd lle mae'r holl gymdeithasau tai sy'n gweithredu yn y rhan honno o'r wlad yn cydweithio gyda ffocws am y fargen twf, a phrosiectau fel Partneriaeth Tai Cymru.


Y thema olaf yn ein hymateb y dymunaf siarad amdani yw ansicrwydd.


Agorais fy araith drwy siarad am yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu i gyd, mewn gwleidyddiaeth, yn yr economi ac yn y byd ehangach. Fel busnesau, un o'r rolau pwysicaf y gall llywodraeth ei chwarae yw dileu a lliniaru ansicrwydd allanol.


Yn fy marn i, trosglwyddo graddfa-fawr ar stoc o awdurdodau lleol i gymdeithasau tai fu'r enghraifft fwyaf llwyddiannus o bartneriaeth cyhoeddus-preifat mewn polisi cyhoeddus. Ym mhob un o'r un ar ddeg o sefydliadau trosglwyddo stoc yng Nghymru mae awydd a chapasiti sylweddol i wneud mwy. Maent yn allweddol i'n huchelgais Gorwelion Tai i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Byddai sicrwydd hirdymor dros y cyllid bwlch y cafodd eu cynlluniau busnes eu hadeiladu arno yn cynyddu eu capasiti yn sylweddol a gallai arwain at adeiladu miloedd mwy o dai ar draws Cymru.


Ac wrth gwrs, yn yr wythnos hon o bob wythnos, mae angen i mi siarad am y gair 'B'. Mae Brexit yn bwrw cysgod dros bawb ohonom gydag uwch-gynhadledd bosibl gan yr Undeb Ewropeaidd a phleidlais Seneddol ar y gorwel i efallai roi peth eglurdeb i ni.


Yn y misoedd a blynyddoedd i ddod gallai cymdeithasau tai wynebu heriau sylweddol mewn sgiliau ac adeiladu. Os ceir cytundeb, mae'r cyfnod gweithredu i'w groesawu ond mae gan lywodraethau y ddau ben o'r M4 rôl hollbwysig i'w chwarae wrth gynnig sicrwydd am bolisi masnach a mewnfudo yn y dyfodol.


Byddai 'Dim Cytundeb' yn dod â heriau llawer dwysach. Yn aml mae tenantiaid cymdeithasau tai ymysg rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac mae'n hanfodol ein bod ni, fel ein cydweithwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynllunio sut y byddwn yn diwallu anghenion y mwyaf bregus. Os yw'r holl fygythiadau o ddim cytundeb yn cael eu gwireddu, bydd gan gymdeithasau tai rôl allweddol fel sefydliadau angor mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru i gefnogi'r rhai sydd yn yr angen mwyaf.


Mewn unrhyw sioc economaidd a ddaw wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, saif cymdeithasau tai yn barod i weithio gyda llywodraeth i helpu ysgogi'r economi. Mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa ddelfrydol i weithredu mewn ffordd wrth-gylchol.


Fel y gwnaethom ddangos mewn ymateb i'r cwymp economaidd yn 2008, rydym yn sector a all roi ysgogiad economaidd, diogelu swyddi a pharhau i adeiladu'r cartrefi mae Cymru eu hangen. Fel y nodwyd yn ein gweledigaeth y llynedd, mae tai da yn hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd y genedl, a chytundeb neu ddim cytundeb, mae cymdeithasau tai yn barod i weithio gyda llywodraeth i sicrhau ffyniant i bawb.


Nid dim ond mewn llwyddiant economaidd y gall tai da fod â rôl hanfodol. Gwyddom fod tai da yn hanfodol i iechyd pobl Cymru, ac mae hyn yn ganolog i'n gweledigaeth. Dyna pam, ynghyd â'n partneriaeth gyfredol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, ein bod wedi ymrwymo i Femorandwm Dealltwriaeth gyda Conffederasiwn GIG Cymru i ymchwilio gweithio partneriaeth agosach yn uniongyrchol gyda byrddau iechyd lleol.


Gwelsom lawer o gynnydd ar iechyd a thai dros y deuddeg mis diwethaf, yn cynnwys £50m o fuddsoddiad ychwanegol yn y Gronfa Gofal Integredig a chynigion i ychwanegu cynrychiolaeth cymdeithasau tai i'n Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae'r rhain yn symudiadau a groesawir a phwysig gan Lywodraeth Cymru a bydd ein partneriaeth newydd gyda Chonffederasiwn GIG Cymru yn hanfodol wrth rannu arfer da ac adeiladu ar y momentwm hwn i sicrhau newid parhaus.


Felly wrth i banel yr Adolygiad ystyried ei ganfyddiadau, mae'n rhaid iddo ystyried effaith tai da yn ei gyd-destun ehangach. Bydd y penderfyniadau a gymerir yn y diwedd ar feysydd fel rhent, grant a thir yn cael sgil effeithiau ar economi Cymru, iechyd Cymru a chymunedau ledled Cymru.


Cyn cyflwyno ei argymhellion i'r Gweinidog ym mis Ebrill, mae gan y panel waith mawr ar ei ddwylo. Bydd llawer o gyfleoedd i glywed am gyfeiriad y teithio dros y deuddydd nesaf, ond i mi mae tri phrawf y ddylem eu defnyddio i fesur llwyddiant argymhellion yr Adolygiad:


- A ydynt yn darparu mwy o gartrefi?


- A yw'r cartrefi hynny o ansawdd da ac yn addas ar gyfer y dyfodol


- Ac a yw'r cartrefi hynny yn wirioneddol fforddiadwy i'r rhai yn yr angen mwyaf?





Yng Nghymru, mae ein hamgylchedd polisi wedi cynnig sefydlogrwydd i ni a ddeng mlynedd yn dilyn yr Adolygiad olaf o bolisi tai, mae gan gymdeithasau tai hawl i ymffrostio am hanes balch o lwyddiant mewn darparu. Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i fod wedi rhoi blaenoriaeth yn ei strategaeth gynhwysfawr 'Ffyniant i Bawb' ac wedi cefnogi eu hymrwymiad gyda chyllid yn nhymor hwn y llywodraeth ond mae'n rhaid i ni yn awr edrych i'r dyfodol.


Mae hwn yn adolygiad a gynhelir o sefyllfa o nerth, ond mae'n rhaid i ni beidio gadael i hynny gyfyngu ein huchelgais. Mae'n rhaid i'r Adolygiad fod yn feiddgar, bod yn ddewr, a meddwl am yr hirdymor.


Mae cymdeithasau tai yn bodoli i ddarparu tai cymdeithasol a chartrefi fforddiadwy. Eu huchelgais yw darparu 75,000 yn fwy ohonynt dros yr ugain mlynedd nesaf. I wneud hyn, rydym angen amgylchedd polisi hyblyg, sy'n hybu cydweithio ond sy'n cynnig sicrwydd hirdymor i sefydliadau sy'n fuddsoddwyr hirdymor ac nid yn hyn ar gyfer elw tymor byr.


Gan weithio law yn llaw gyda llywodraeth a phartneriaid eraill, gallwn bob amser gyflawni mwy. Mae'r Adolygiad hwn yn rhoi cyfle enfawr i gyflawni fframwaith lle mae cymdeithasau tai a llywodraeth, lleol a chenedlaethol, yn cydweithio i sicrhau Cymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.


Gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwnnw.


Diolch.