Jump to content

07 Mehefin 2019

Adeiladu weithle cryf a chydnerth

Adeiladu weithle cryf a chydnerth
Wrth i sefydliadau dyfu a newid, mae'r angen am weithlu cryf a chydnerth yn cynyddu. Yn ein cynhadledd cyllid eleni, bydd Paul Chudleigh yn cyflwyno dulliau a chyngor da i gael cyflwr meddwl cytbwys fel y gallwn gyflawni ein gorau glas a sicrhau canlyniadau rhagorol.


Crynhowch eich sgwrs mewn un frawddeg
Yn sylfaenol mae am ddeall fod cydnerthedd yn ased y gallwn i gyd weithio i'w dyfnhau a'i chyfoethogi; nid hud a lledrith mohoni ond deall o ble mae'n dod a sut i'w defnyddio.


Mae eich sgwrs am gydnerthedd, pam ydych chi'n credu ei bod yn bwysig adeiladu gweithlu cydnerth?
Am rhy hir o lawer, mae gormod o sefydliadau wedi canolbwyntio ar berfformiad, perfformiad, perfformiad. Mae llawer, yn cynnwys rhai yn y sector tai cymdeithasol, yn gwerthfawrogi mai dim ond drwy roi ystyriaeth i lesiant a chydnerthedd y gellir sicrhau perfformiad uchel cynaliadwy. Wrth gwrs, mae sefydliadau eisiau perfformio'n dda; fodd bynnag, mae angen i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod cymorth a chefnogaeth ar gael iddynt os ydym eisiau iddynt gymryd rhan lawn mewn gwella pethau. Os gwnawn y camgymeriad o ofyn i bobl am fwy a mwy, heb greu diwylliant sy'n hyrwyddo cydnerthedd, gallwn ganfod eu bod yn penderfynu mynd â'u talentau i fan arall. Hyd yn oed yn waeth, gallant losgi mâs.


Pa brofiad sydd gennych o weithio gyda'r sector tai cymdeithasol?
Rwyf wedi cefnogi cryn nifer o sefydliadau tai cymdeithasol a chysylltiedig dros y blynyddoedd. Rwyf wedi cymryd rhan wrth helpu i ddewis pobl ar gyfer swyddi uwch, hyfforddi, datblygu sefydliadol a datblygu arweinyddiaeth. Rwyf wrth fy modd gyda llawer o'r gwaith mae'r sector yn ymwneud ag ef ac yn gobeithio fod arweinwyr, rheolwyr ac aelodau staff yn gwirioneddol ddeall y gwerth a roddant i gymunedau.


Ydych chi'n meddwl fod y ffordd y gweithiwn wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf?
Mae gwaith wedi newid i bron bawb dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Gallwn yn awr wneud pethau nad oedd pobl yn breuddwydio am eu gwneud unwaith, sy'n wych. Mae ein sefydliadau yn fwy cymhleth nag erioed o'r blaen ac mae technoleg yn gyrru newid mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Fodd bynnag, mae'n bwysig sicrhau ein bod yn diweddaru ein dulliau gwaith i gyfateb anghenion a gofynion byd sy'n esblygu'n gyflym. Gall technoleg fod yn fendith ac yn fellith wrth i ni geisio integreiddio gwaith ac agweddau eraill o fywyd ac mae dewisiadau personol y mae'n rhaid i ni eu gwneud os ydym i ffynnu.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf eto yn y gynhadledd Cyllid?
Clywed mwy am beth o waith gwych y sector a sut y gall syniadau ariannol borthi arloesedd.


Archebwch eich tocyn ar gyfer Cynhadledd Cyllid eleni yma.