Jump to content

02 Mehefin 2017

Adeiladu cartref addas i anghenion pawb...




Brics a morter, gwydr a dur, pren a phridd. Mae cartrefi'n dod mewn pob math o siâp a maint a gallant weddu i bob math o bobl. P'un ai Lord of the Rings sy'n mynd â'ch bryd a'ch bod yn edrych am gartref eco arddull bilbo Baggins, neu y byddai'n well gennych ddeffro mewn fflat ar y 5ed llawr gyda'r holl nwyddau cyfleuster mwyaf modern yn cynnwys rhewgell gyda Wi-Fi.


Heblaw yn y byd go iawn, ymaith o fyd Grand Designs, dyw hyn ddim yn wir.


Mae'r cwmnïau adeiladu tai mwyaf yn dal i ddefnyddio brics a morter a byddant yn cynllunio tri neu efallai bedwar math o dŷ. Caiff cynlluniau'r cartrefi yma wedyn eu copïo a'u gosod ar draws datblygiadau mawr ac yn aml safleoedd niferus. Mae hyn yn golygu os ydych newydd brynu neu rentu cartref newydd a adeiladwyd gan gwmni mawr, mae'n debyg y bydd cryn nifer yn union yr un fath.


I fod yn glir, nid beirniadaeth o gwmnïau adeiladu mawr yw hyn. Mae defnyddio nifer gyfyngedig o gynlluniau ac ailadrodd yr hyn a wyddoch drosodd a throsodd yn gwneud synnwyr economaidd a hefyd yn nhermau adeiladu'r nifer fawr o gartrefi sydd eu hangen. Ond os ydym byth i gyrraedd y targed uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai, ac efallai ragori arno, byddwn angen arloesi mwy a chael syniadau newydd mewn adeiladau tai.


Mae adeiladwyr bach gyda'i gilydd yn ffurfio cyfran enfawr o dai newydd a adeiladwyd cyn y chwalfa ariannol - byddai cyrraedd lefelau 2007 yn rhoi tua 27,000 o gartrefi newydd y flwyddyn i ni. Ond ers 2008, mae adeiladwyr bach wedi dod yn bethau braidd yn brin.


Byddwn yn gobeithio y byddai adeiladwyr bach, oherwydd eu natur, yn fwy tebygol o arloesi a symud ymaith o dactegau'r cwmnïau mawr. Gallai hyn olygu datrysiadau tai mwy dyfeisgar, tebyg i'r Ddinas Blychau sydd ar y gweill ar gyfer Caerdydd, neu adeiladau mwy cydnaws i'r hyn sydd ei angen lleol ac yn diwallu niche yn y farchnad.


Gallwn gael y bobl hyn i adeiladu eto drwy gwtogi ar fiwrocratiaeth, dynodi ardaloedd a allai fod at ddant adeiladwyr bach ond nad oes gan y bechgyn mawr ddiddorddeb ynddynt, a chreu amgylchedd sy'n caniatáu ar gyfer syniadau newydd mewn tai, fel ein bod yn wirioneddol yn fwy na dim ond brics a morter.


Os ydym eisiau datrys yr argyfwng tai, yna mae gan bawb ohonom ran i'w chwarae, ond mae hefyd angen gwneud yn siŵr fod gennym gartrefi sy'n diwallu ein hanghenion, ac mae hynny'n cynnwys anghenion Bilbo Baggins.
Daniel Bellis
– Swyddog Polisi, RLA Wales
(Twitter.com/RLAWales)