Jump to content

22 Ebrill 2021

Addewidion, addewidion – ymrwymiadau maniffesto y pleidiau gwleidyddol

Addewidion, addewidion – ymrwymiadau maniffesto y pleidiau gwleidyddol

Ers ei greu yn 1999, cafodd pob un o bum tymor y Cynulliad ac wedyn
Senedd Cymru eu tra-arglwyddiaethu’n gyson gan Lafur Cymru. Er i Bôl Baromedr Gwleidyddol Cymru awgrymu cystadleuaeth agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, mae pôl mwy diweddar a helaeth yn rhagweld bod Llafur yn debyg o barhau y blaid fwyaf yn y Senedd.


Cofnododd y pôl y canrannau dilynol ar gyfer y bleidlais etholaethol:


  • Llafur 40%

  • Ceidwadwyr 30%

  • Plaid Cymru 19%

  • Democratiaid Rhyddfrydol 4%

  • Arall 7%

Ac ar gyfer y bleidlais ranbarthol:


  • Llafur 38%

  • Ceidwadwyr 27%

  • Plaid Cymru 19%

  • Democratiaid Rhyddfrydol 4%

  • Gwyrddion 5%

  • UKIP 2%

  • Arall 7%

Gall Llafur ddal fod ychydig yn brin o fwyafrif dros bawb arall (sy’n
beth eithaf cyffredin yn hanes y Senedd) a byddai angen iddynt sicrhau
cefnogaeth plaid arall i ffurfio llywodraeth leiafrifol.


Gyda hyn dan sylw, beth mae’r prif bleidiau yn addo ei gyflawni dros
dymor nesaf y Senedd a sut mae hyn yn mesur o gymharu â’r hyn y galwn
amdano yn ein maniffesto Cartref?


Cyflenwad tai


Un o’r pethau canolog y galwn amdano gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr
etholiad yw rhaglen buddsoddiad o £1.5n dros 5 mlynedd ar gyfer 20,000 o
gartrefi cymdeithasol newydd effeithiol ar ran ynni.


Mae Llafur wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol
carbon isel newydd i’w rhentu, tra bod Plaid Cymru yn feiddgar yn
ymrwymo i’r rhaglen adeiladu tai cyhoeddus mwyaf am 50 mlynedd. Bydd hyn
yn cynnwys adeiladu neu addasu 50,000 o gartrefi cyhoeddus dros y pum
mlynedd nesaf – 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol eraill.


Gyda thargedau tebyg i bleidiau eraill, bydd y Ceidwadwyr yn adeiladu
100,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf, yn cynnwys 40,000 o
gartrefi cymdeithasol a’r gofyniad i bob cartref newydd fod yn
sero-carbon erbyn 2026.


Digartrefedd


Mae ein maniffesto yn esbonio sut mae angen i ni drawsnewid y ffordd
yr ydym yn lliniaru digartrefedd yn seiliedig ar ailgartrefu cyflym a
model Tai yn Gyntaf. Dywedodd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru y byddant yn
cyflwyno model Tai yn Gyntaf. Yn y cyfamser, bydd Llafur yn datblygu
cynllun cenedlaethol yn cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol ar
gyfer teuluoedd a phobl ifanc sy’n methu fforddio y farchnad rhent
preifat a’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn risg o ddod yn
ddigartref.


Iechyd a gofal cymdeithasol


Mae her gynyddol i’r sector cymdeithasol ddarparu gofal ansawdd uchel
sy’n canoli ar y person i gefnogi pobl i barhau’n annibynnol yn eu
cartrefi eu hunain pan gaiff ei yrru gan gost ac nid gwerth ar hyn o
bryd. Dyma pam yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad yn
cynyddu cyllid gofal cymdeithasol ar gyfer awdurdodau lleol, yn cynnwys
cydnabod gwaith pwysig gweithwyr gofal drwy dalu o leiaf y Cyflog Byw
Gwirioneddol o £9.50 yr awr.


Bydd y Ceidwadwyr a hefyd Blaid Cymru yn cyflwyno isafswm cyflog
gofal o £10 yr awr i sicrhau y caiff eu gwaith hanfodol ei gydnabod ac
yn gynyddol yn unol â chyflogau staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Er
nad oes sôn am gyflog penodol, mae Llafur yn ymrwymo i lansio Fframwaith
Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i osod comisiynu teg, amodau teg i’r
gweithlu a marchnad gofal fwy cytbwys rhwng darparwyr cyhoeddus,
darparwyr gwirfoddol a darparwyr preifat.


Canol trefi a chymunedau


O amgylch ein cartrefi, gwelsom ganol trefi yn dod yn gynyddol wag
oherwydd y pandemig. Mae pawb ohonom yn haeddu byw mewn lle sy’n
groesawgar i’r llygad ac yn cyflawni diben i alluogi cymuned ffyniannus.
Dylai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad gynnwys mwy o hyblygrwydd o
fewn y broses cynllunio i alluogi mannau lleol i fod yn ystwyth yn eu
hymateb i newid yn y galw ac arferion defnyddwyr ac annog arbrofi gyda
defnydd adeiladau gwag.


Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at greu cymdogaethau
20-munud mewn trefi a dinasoedd gan roi mynediad cyfleus a diogel ar
droed i’r lleoedd mae pobl angen mynd iddynt a’r gwasanaethau mae pobl
yn eu defnyddio bron bob dydd. Byddant hefyd yn sicrhau bod darparu
gofod gwyrdd ansawdd da o fewn pum munud ar droed i bob aelwyd yng
Nghymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.


Bydd Llafur yn helpu busnesau i gydweithio i gefnogi cadwyni cyflenwi
lleol, yn cynnwys gwasanaethau dosbarthu a logisteg lleol i alluogi ein
cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy a mwy ystwyth yn economaidd. Gan
weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau, y sector gwirfoddol a grwpiau
cymunedol, cynigiant greu mwy o ofodau gwyrdd cymunedol yng nghanol
trefi.


Dywed y Ceidwadwyr y byddant yn diwygio proses gynllunio Cymru gyda
thechnoleg newydd a thorri biwrocratiaeth gan roi cymunedau yn gyntaf.
Anelant rymuso cymunedau lleol i sefydlu cynlluniau cymdogaeth, gan eu
galluogi i ddylanwadu lle dylai datblygu ddigwydd, pa olwg ddylai fod ar
eu cymunedau a beth ddylent gynnwys. Mae hyn yn cynnwys ‘Cyflwyno
Cronfa Perchnogaeth a Hawl i Gynnig’ i gefnogi cymryd cyfrifoldeb am
asedau tebyg i lyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a gofodau
gwyrdd, yn neilltuol y rhai sydd dan fygythiad cau neu ddatblygu.


Ymddengys fod y prif bleidiau gwleidyddol yn cynnig datrysiadau tebyg
i rai o’r heriau yn ein maniffesto, gydag amrywiadau bach yn sut y
cyflawnir hyn. Wrth ei flas mae profi’r pwdin po bwy fydd yn cyflawni’r
uchelgeisiau hyn dros dymor nesaf y Senedd.


Cafodd maniffesto ‘Cartref
CHC ei ddatblygu ar y cyd gyda bron 100 o sefydliadau, yn cynnwys
cymdeithasau tai a phartneriaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat
ar trydydd sector ledled Cymru.