Jump to content

09 Ebrill 2020

Addasu i newid

Addasu i newid
Gyda Covid-19 yn effeithio ar aelwydydd ledled Cymru, mae’n bwysicach nag erioed i gymdeithasau tai y gall tenantiaid gael mynediad i gymorth hanfodol. Bu Cartrefi Conwy yn gweithio drwy’r dydd a’r nos i sicrhau fod tenantiaid hŷn yn teimlo fod ganddynt gymorth llawn ar hyn o bryd, ac wedi sefydlu tîm Llesiant newydd i roi cefnogaeth. Dywedodd Dan Hall, Rheolydd Incwm Cartrefi Conwy:


“Mae’n ddiogel dweud i’r ychydig wythnosau diwethaf fod fel corwynt llwyr; yn gymaint felly fel fy mod yn ei chael yn anodd cofio pa diwrnod o’r wythnos ydi hi!


Fel gweddill y sector cawsom ein taflu i’r amgylchiadau hyn heb fawr o amser i baratoi, ond nid yw hyblygrwydd, ymrwymiad a phenderfyniad ein cydweithwyr ar ein rheng flaen byth yn peidio fy rhyfeddu wrth iddynt roi lles ein tenantiaid wrth galon popeth a wnânt.


Mae traean ein stoc tai o 3900 yn dai gwarchod, gan olygu fod gennym gyfran uwch o denantiaid hŷn na’r rhan fwyaf. Fe wnaethom sefydlu tîm Llesiant yn syth yn cynnwys gwahanol gydweithwyr o Gwasanaethau Cymdogaeth a Creu Dyfodol ac aethom ati i gysylltu gyda phob un o’n tenantiaid sydd dros 70 oed. Diben y galwadau oedd gweithio fel gwiriad llesiant, sefydlu unrhyw anghenion cymorth a rhoi sicrwydd. Hyd yma mae ein tîm Llesiant wedi ffonio dros 1000 o denantiaid bregus ac oedrannus.


Rydym yn awr yn ymestyn y cymorth hwn i’r holl denantiaid gan ddechrau gyda’r rhai sy’n byw ar ben eu hunain. Gyda neges sylfaenol – rydym YMA I HELPU .... sydd hefyd yn digwydd bod yn enw ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol a lansiwyd i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ac mae’n rhoi sylw i gydweithiwr newydd bob dydd, gan roi wyneb i’r enw gyda neges gryf ein bod #ymaihelpu.


Mae ein llwybrau cyfathrebu digidol wedi’n helpu i gadw gwybodaeth allweddol yn gyfredol ar wasanaethau a chyngor i’n tenantiaid. Rydym wedi anfon negeseuon e-bost at grwpiau cymunedol lleol gyda gwybodaeth ar ffrydiau cyllid newydd ynghyd â chyfleoedd dysgu ar-lein.


Mae rheoli iechyd meddwl ar y cyfnod heriol hwn hefyd yn bwysig iawn gyda llawer o bobl yn ymdopi’n wahanol. Mae pawb ohonom yn hyn gyda’n gilydd a dyna’r neges roeddem eisiau ei chyfleu. Buom yn rhannu cyngor da o gadw’n brysur i strwythuro ein dyddiau. Rydym hyd yn oed wedi recordio sesiwn fyfyrio ar gyfer tenantiaid a chydweithwyr. Roedd rhoi cynnig ar hyn yn anos na’r disgwyl i fi gan gennyf hefyd ferch 9 mis oed yn gwneud ei gorau i dynnu fy sylw!


Wrth i’r cyfyngiadau ar symud ddatblygu, daeth yn amlwg na fyddai rhai o’n tenantiaid mwy bregus yn medru mynd allan i wneud tasgau hanfodol fel siopa neu nôl meddyginiaeth. Fe wnaethom felly sefydlu gwasanaeth dosbarthu gyda chydweithwyr penodol a fyddai’n ein galluogi i wneud y tasgau hyn ar eu rhan. Fe wnaeth hyn hefyd ei gwneud yn bosibl i ni gyrraedd ein cymunedau gwledig lle gallai ynysigrwydd fod yn broblem enfawr.


Mae dros 60% o’r galwadau a gafodd ein tîm rhent gan denantiaid oedd yn bryderus oherwydd iddynt golli eu swyddi. Mae bod â thîm cymorth arian wedi golygu y gallwn gyfeirio’n gyflym i roi cyngor i dros 100 tenant ar geisiadau am fudd-daliadau, cynyddu incwm, cymorth gyda chyfleustodau, trefnu arian a llawer mwy!


Bu’n amser anodd a phrysur iawn i ni yma yn Cartrefi Conwy ond mae cydweithwyr ar draws y sefydliad wedi addasu’n gyflym, bu ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn rhagorol wrth reoli galwadau ... heb anghofio am ein swyddogion rheng flaen/tîm atgyweiriadau sydd wedi parhau’n ymroddedig a phroffesiynol i sicrhau fod ein tenantiaid yn ddiogel.


Gwelsom hefyd y gymuned yn dod ynghyd i helpu ei gilydd, a chafodd un o’n tenantiaid heb fynediad i’r rhyngrwyd fynediad i siarad ar-lein gyda’i theulu. Clywodd cymydog am hyn a’i chroesawu i’w chartref (yn dilyn y rheolau ymbellhau cymdeithasol) i ddefnyddio ei chyfrifiadur a chysylltu’n annisgwyl â’i theulu ar Facetime. Ar adegau hyn y mae pobl yn wirioneddol yn dod ynghyd ar gyfer ei gilydd ac mae’n fraint medru gwasanaethu ein cymunedau a helpu lle gallwn.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi