Jump to content

06 Ebrill 2020

Addasu cymorth cyflogaeth i denantiaid

Addasu cymorth cyflogaeth i denantiaid
Mae Covid-19 yn arwain at newid cyflym yn y byd o’n hamgylch ac yn cael effaith ddybryd ar swyddi, cymunedau a bywydau pobl.


Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cefnogi dros 250,000 o denantiaid ac yn ystod y cyfnod ansicr hwn maent wedi addasu’r gwasanaethau a gynigiant i sicrhau fod tenantiaid yn aros yn ddiogel a saff yn eu cartrefi. Mae Ryan Hill yn Rheolydd Cyflogaeth Cwsmeriaid gyda United Welsh, ac mae’n esbonio sut maent yn parhau i gefnogi tenantiaid ar hyn o bryd.


“Mae’r holl dîm yn awr yn gweithio o bell, ond nid yw hynny’n golygu fod y gefnogaeth a gynigiwn wedi dod i ben. Fel arfer, rydym yn helpu pobl fynd i waith gyda chyngor ar geisiadau am swyddi, hyfforddiant a chynyddu sgiliau tenantiaid a thalu am gostau gofal plant a theithio yn y tymor byr i’w gwneud yn haws i denantiaid fynd i waith.


Pan ddechreuodd achosion Covid-19 yng Nghymru, fe wnaethom ddechrau ymestyn mas i’r bobl y gwnaethom eu cefnogi wrth ddod o hyd i swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnig cyngor a chefnogaeth ar beth fedrai ddigwydd nesaf.


Rydym hefyd yn parhau i gefnogi pobl sy’n edrych am waith i lenwi ffurflenni cais a llunio CV. Caiff ein gwaith ei deilwra a’i addasu i bob person ar sail achos wrth achos, felly gallai hyn olygu cynnig sesiwn paratoi am gyfweliad dros y ffôn neu gyfeirio tenantiaid at y tîm Cyngor Incwm ac Arian i gael cymorth arbennig ar fudd-daliadau neu gyngor ar absenoldeb seibiant.


Mae ein tenantiaid yn amlwg yn bryderus am y sefyllfa ariannol a beth fedrai ddigwydd gyda’u swyddi, ond mae’r rhai sy’n edrych am waith ar hyn o bryd hefyd yn gofidio am risg derbyn cyfleoedd swydd a phosibilrwydd dod i gysylltiad gyda’r feirws, felly mae gennym rôl hanfodol yma wrth gynghori a’u cefnogi drwy hynny.”


Os ydych yn denant i United Welsh ac angen cymorth, ffoniwch 030 159 6080 (pwyso 3) neu ymweld â’r wefan https://www.unitedwelsh.com/forms/help-with-jobs-and-training/ os gwelwch yn dda.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi