A all Cymru lenwi’r bwlch cyllid gofal cymdeithasol?
Mae cyllido gofal cymdeithasol i oedolion wedi symud i ganol y llwyfan. Mae cytundeb eang fod angen mwy o arian a sonnir am wahanol ffigurau. Ond sut mae penderfynu yn union faint ac os yw hynny’n fforddiadwy?
Fel y nododd Chris Giles yn y Financial Times[1] yn ddiweddar, nid yw economeg gofal cymdeithasol yn gymhleth. Dywed, er fod henoed heddiw angen ychydig yn llai o ofal, fod y twf mewn rhifau yn golygu y bydd y bil yn anochel yn cynyddu. Yng Nghymru, rhagwelir y bydd nifer y bobl hŷn (rhai 65 oed a throsodd) sy’n derbyn gwasanaethau gofal preswyl wedi cynyddu gan 82% rhwng 2015 a 2035, a bydd y nifer sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned wedi cynyddu gan 67% pan uwchraddir mynychder poblogaeth 2015 ar gyfer y twf poblogaeth a gaiff ei ddarogan mewn pobl hŷn.[2]
Nid yw’r her y mae hyn yn ei achosi yn newydd, wedi’r cyfan cawsom wahanol ymchwiliadau ac astudiaethau yn y degawd diwethaf – megis adroddiad Dilnot a gafodd ei ddiystyru yn Lloegr ac ymchwil fanwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig a’i strategaeth ar gyfer pobl hŷn. Felly pam ei fod wedi dod i’r wyneb yn awr a hynny mor rymus?
Ymddengys fod dau beth wedi digwydd. Cafodd y gaeaf a’r pwysau dilynol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn arbennig yn Lloegr, eu beio’n rhannol ar y cynnydd mewn gohirio wrth drosglwyddo gofal (yn llai felly yng Nghymru) a’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol. Wrth ochr hyn, mae tystiolaeth gynyddol fod sefydliadau annibynnol sy’n darparu gofal preswyl a chartref yn cael trafferth, ac mewn rhai achosion yn methu, parhau’n hyfyw. Cawsant eu dal rhwng y wasgfa ar gyllid awdurdod lleol sydd ar gael ar gyfer contractau gofal, her recriwtio a chadw’r staff maent eu hangen a chostau cynyddol y gweithlu (cyflog byw cenedlaethol, pensiynau a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol cyflogwyr). Dywedodd 13 o 22 awdurdod lleol Cymru wrth y BBC eu bod wedi gweld darparwyr yn cyflwyno contractau’n ôl iddynt.[3]
Ond os yw cadw pethau fel y maent yn edrych yn anghynaladwy, a wyddom yn union pa gyllid ychwanegol sydd ei angen? Mae Adam Roberts[4] wedi tynnu sylw at yr ystod o gyfrifiadau ar gyfer Lloegr gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, yr IFS, melinau trafod iechyd ac eraill. Caiff y rhain i gyd eu casglu mewn gwahanol ffyrdd ac, heb fod yn annisgwyl, maent yn rhoi amrywiaeth o ffigurau, i gyd yn dangos yr angen am arian newydd sylweddol.
Mae’r darlun yng Nghymru, lle cafodd y gwariant ar wasanaethau cymdeithasol fwy neu lai ei ddiogelu, yn wahanol ond mae’r pwysau yn cynyddu yma (e.e. gweler papur WLGA[5]). Daeth y Sefydliad Iechyd[6] i’r casgliad y byddai angen i gyllid gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru yn gyffredinol (h.y. oedolion iau yn ogystal â hŷn) gynyddu gan 4% mewn gwir dermau bob blwyddyn, gan olygu bron ddyblu erbyn 2030 ac yn gwthio gwariant i fyny i £2.3 biliwn. Mae hyn yn fras debyg i’n cyfrifiadau, yn Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025,[7] bod gwariant awdurdodau lleol wedi gostwng dros y saith mlynedd diwethaf gan tua 13% ac y byddai angen £134 miliwn y flwyddyn yn fwy erbyn 202-21 i fynd yn ôl i lefelau fesul pen 2009-10.
Nid y ffigurau hyn yw'r gair olaf. Mae dadansoddiad y Sefydliad Iechyd yn seiliedig ar fodelu ar gyfer Lloegr oherwydd nad oes data cyfatebol ar gyfer Cymru ar gael. Mae angen i’r dadansoddiad roi ystyriaeth i ffactorau megis cymhlethdod gofal (yn gysylltiedig gyda’r cynnydd yn nifer y rhai gyda chyflyrau cronig lluosog), y cynnydd mewn cyflogaeth a chostau eraill, pwysau ansawdd a lefelau angen na chaiff ei ddiwallu.
Wrth gwrs nid dim ond yn ymwneud ag arian cyhoeddus mae’r economi gofal cymdeithasol o gofio, yn wahanol i’r GIG, y caiff gofal cymdeithasol ei gyllido drwy’r pwrs cyhoeddus a hefyd godi ffioedd ar unigolion. Yr her wleidyddol yw canfod cydbwysedd cynaliadwy rhwng y ddau sy’n rhoi ystyriaeth i allu person i dalu, eu hanghenion a’r hyn y gall y wladwriaeth a threthdalwyr ei dalu (neu’n fodlon ei dalu). Mae’r gweithredu yng Nghymru i osod cap ar ffioedd gofal cartref a chynyddu’r trothwy cynilion ar gyfer gofal preswyl yn adlewyrchu ymgais i gysoni’r rhain.
Wrth bwyso a mesur pethau, mae’n bwysig cadw’r ffigurau mewn persbectif. Yng Nghymru, mae cyllideb graidd dydd-i-ddydd y GIG dros £6.5 biliwn. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer gwariant blynyddol awdurdodau lleol ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl dros 65 yn llai na 10% o hynny ar ychydig dan £0.55 biliwn (prisiau 2016-17). Mewn amserau arferol, mae’n sicr y byddai gosod y cyllid ar drywydd fyddai’n hyfyw yn yr hirdymor o fewn parthau posibilrwydd. Ond mae cyni cyllidol yn achosi dewisiadau caled, hyd yn oed annymunol, i lywodraeth genedlaethol a lleol.
Bydd chwistrelliad newydd y Canghellor o £2 biliwn dros y 3 blynedd nesaf yn helpu, ond mae’r ychwanegiadau cynnil drwyddi draw i floc Cymru o Gyllideb y Gwanwyn yn awgrymu na fydd yn ddigon, o gofio am y pwysau eraill.
Mae angen i strategaeth cyllido hirdymor gael ei seilio ar fethodoleg a gytunwyd ar gyfer asesu’r bwlch cyllid. Mae gennym fethodolegau ar gyfer gofynion llawer mwy cymhleth ar gyfer y GIG, rydym angen rhywbeth tebyg ar gyfer gofal cymdeithasol.
Joseph Ogle & Michael Trickey
- WPS 2025
(Michael Trickey yw Cyfarwyddydd Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 (WPS 2025) a Joseph Ogle yw Cymhorthydd Ymchwil y rhaglen. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn noddwr ac yn aelodau o fwrdd y rhaglen. Mwy o wybodaeth yma: http://www.walespublicservices2025.org.uk/)
--
[1] https://www.ft.com/search?q=social care (16/3/17)
[2] Data sourced from the Daffodil care data archive: http://www.daffodilcymru.org.uk/
[3] http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-39321818
[4] http://www.publicfinance.co.uk/opinion/2017/03/how-big-social-care-funding-gap
[5] http://senedd.assembly.wales/documents/s54373/WGDB_17-18%2026%20Welsh%20Local%20Government%20Association.pdf
[6] http://www.health.org.uk/publication/path-sustainability
[7] http://www.walespublicservices2025.org.uk/2017/03/08/a-delicate-balance-health-social-care-spending-in-wales/