Jump to content

16 Rhagfyr 2019

Gallai cyllid hanfodol ddod â digartrefedd i ben

Gallai cyllid hanfodol ddod â digartrefedd i ben
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn 2020/21. Mae Will Atkinson yn esbonio pam fod y cyllid hwn yn hanfodol.


Mae digartrefedd wedi cyrraedd pwynt argyfwng ar draws y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae nifer yr aelwydydd y cofnodwyd eu bod dan fygythiad digartrefedd wedi cynyddu gan draean rhwng 2015-2018. Yn waeth byth, mae nifer y bobl a ddaeth yn digartref ac sydd angen cymorth wedi cynyddu gan bron hanner, er i'r gyfradd atal gynyddu oherwydd gwaith caled cynghorau, cymdeithasau tai a darparwyr cymorth.


Er bod y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar ein strydoedd wedi cael cryn dipyn o sylw, mae llawer o bobl nad ydynt mor weladwy; yn byw mewn hostel neu Wely a Brecwast a chysgu ar soffa. Mae'r broblem yn gwaethygu. Ddydd Gwener cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ffigurau yn dangos bod 2,307 o aelwydydd yng Nghymru mewn llety dros dro (ffigurau ar 30 Medi). Dyma'r ffigur uchaf ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) yn 2015. Ymhellach, amcangyfrifodd Shelter y bydd 135,000 o deuluoedd gyda phlant yn byw mewn llety dros dro ar draws Prydain y Nadolig hwn, yn bendant yn ddigartref a dim ond modfeddi ymsiyh o fod heb do mewn rhai achosion.


Yn y sefyllfa hon y mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu dull gweithredu cadarn ar draws y sector cyhoeddus i ddod â digartrefedd i ben. Gyda chymorth gwaith y Grŵp Gweithredu Digartrefedd, a gynullwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i argymell a gweithredu i ddod â digartrefedd i ben, mae mesurau sylweddol yn cael eu rhoi ar waith i atal y cynnydd mewn digartrefedd a'i wrthdroi. Mae cymdeithasau tai wedi ymateb i'r her.


Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn rhoi lle creiddiol i fynd i'r afael â digartrefedd. Rhoddir buddsoddiad ac ynni sylweddol i gynnal tenantiaethau a darparu tai i bobl sy'n ddigartref neu mewn risg o ddod yn ddigartref. Ond sylweddolwn fod yn rhaid i bob partner fynd ymhellach os ydym i ddod â digartrefedd yng Nghymru i ben. I gymdeithasau tai, mae hyn yn golygu gosod nodau cadarn:
  • Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid yn cynnwys cynghorau a'r gwasanaeth iechyd i sicrhau nad oes neb yn dod yn ddigartref fel canlyniad i adael tai cymdeithasol

  • Mae cymdeithasau tai yn gweithredu dulliau a gaiff eu llywio gan seicoleg at reolaeth tai, i gefnogi tenantiaid ac atal y problemau a all arwain at ddadfeddiannu

  • Mae ein haelodau yn arwain wrth ymestyn Tai yn Gyntaf yng Nghymru, gan chwyldroi'r dull i gefnogi pobl sy'n ddigartref.


Mae gennym yr ewyllys gwleidyddol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn ac mae gan gymdeithasau tai yr egni a'r gallu i'w gweithredu. Darn olaf y pos yw'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y cymorth dwysach cysylltiedig â thai sydd ei angen.


Yn anffodus, dyma lle mae'r trobwynt ar gyfer llawer o'r gwasanaethau hyn sy'n rhaff fywyd i filoedd sy'n byw yng Nghymru. Mae cyllid ar gyfer cymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru wedi gostwng gan £15 miliwn ers 2011, gostyngiad mewn gwir dermau o £37 miliwn ar ôl chwyddiant. Mae cymdeithasau tai a darparwyr cymorth wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau effeithiolrwydd ac ailgyflunio gwasanaethau i barhau i ddarparu cymorth i'r rhai sydd ei angen, ond mae gwasanaethau yn dod yn llai dwys, neu'n waeth, yn cael eu dadgomisiynu.


Gwyddom y caiff penderfyniadau anodd eu gwneud ym mhob cyllideb, gydag ystod o wasanaethau cyhoeddus angen buddsoddiad ychwanegol. Bydd y buddsoddiad parhaus yn y Grant Cymorth Tai yn galluogi cymdeithasau tai a darparwyr cymorth i ddal ati i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ond ar sail cynyddol lwm.


Profwyd fod buddsoddi mewn cymorth cysylltiedig â thai yn arbed arian mewn man arall yn y gyllideb. Am bob £1 a fuddsoddir, arbedir £2.30 i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos dros gynyddu buddsoddiad yn y Grant Cymorth Tai drwy gydol y broses gosod cyllideb, yn neilltuol os yw buddsoddiadau a addawyd yn Lloegr yn arwain at fwy o adnoddau i Gymru.


Mae gan dai â chymorth ran hanfodol i'w chwarae yn nyfodol darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae pwysau cyfredol yn amlygu eu hunain mewn cynnydd mewn digartrefedd, iechyd meddwl gwael a diffyg gwytnwch. Heb wasanaethau cymorth arloesol o safon uchel, dim ond gwaethygu wnaiff y baich ar y GIG a gofal cymdeithasol. Mae ein llety â chymorth yng Nghymru yn iach o gymharu â chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i ni ei chadw fel hyn.