Sut y gallwn ni, fel sector tai, 'ddweud ein stori yn well'?
Cafodd Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol CHC, ei ddewis yn golofnydd i Inside Housing 50 ar gyfer 2017.
Gallwch ddarllen erthygl Stuart yn llawn ar wefan Inside Housing (http://www.insidehousing.co.uk/debate/how-can-we-tell-our-story-better/7019148.article) ond dyma flas ohoni ...
‘Ar yr union adeg rwy'n ysgrifennu'r blog yma, gallaf bron warantu y bydd rhywun, yn rhywle, sy'n gweithio mewn sefydliad tai yn dweud "Mae'n rhaid i ni ddweud ein stori yn well". Mae'n llinell a ynganais lawer gwaith fy hunan.
Mae'n siboleth tai i'r oesau. Y gred ein bod, fel sefydliadau sy'n darparu datrysiadau tai ar gyfer rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, sy'n gynyddol wedi cymryd rolau ehangach fel buddsoddwyr cymunedol a gwneuthurwyr a llunwyr lle, ein bod yn gweithredu er lles cymdeithas. A phe byddai mwy o bobl, yn arbennig y rhai sy'n llunio a dylanwadu ar ein byd, yn gwybod faint o gyfraniad a wnawn i'r economi, i gefnogi pobl a chymunedau, y byddent yn ymddiried ac yn ein grymuso i arbed y gymuned leol, os nad y byd.
Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn gwneud synnwyr. Gwyddom fod straeon yn swyno, yn arbennig y rhai sy'n dangos y gall y newid i gartref diogel, clud a fforddiadwy a'r gefnogaeth i gyd-fynd â hynny ei wneud i'r unigolion hynny a fyddai fel arall wedi bod yn ddigartref, yn ddi-waith a gyda rhagolygon gwael am fywyd. Daw'r budd ychwanegol o'r arbedion a wneir i'r pwrs cyhoeddus drwy i'r unigolyn dan sylw beidio bod angen ymyriadau gan y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill fel yr eisin ar y deisen - yr ychwanegiad ar dop naratif sydd eisoes yn gryf.'
Darllenwch yr erthygl yma. http://www.insidehousing.co.uk/debate/how-can-we-tell-our-story-better/7019148.article