Jump to content

21 Tachwedd 2019

Ymladd troseddau cyllyll

Ymladd troseddau cyllyll
Nid adeiladu cartrefi yn unig y mae cymdeithasau tai Cymru'n eu hadeiladu. Maent yn gweithio mewn partneriaethau gyda sefydliadau eraill i wneud cymunedau yn gynaliadwy, yn ddiogelach ac yn well i fyw ynddynt.


Cafodd Ria Gibbs, Swyddog Ymgyfraniad Cymunedol Bron Afon, gwrdd gyda Crimestoppers yn gynharach eleni i drafod pryderon am droseddau cyllell, camfanteisio rhywiol ar blant a chamfanteisio troseddol ar blant.


Mae'n rhannu ei stori islaw:


Mae Rebecca yn ymwneud gyda Fearless, elusen a gaiff ei rhedeg gan Crimestoppers, sy'n trefnu gweithdai am ddim ar draws Gwent ar gyfer pobl ifanc 11-16 oed ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys cyllyll ac arfau, llinellau sirol, gangiau ac ymelwa troseddol ar blant. Eu nod yw addysgu pobl ifanc a hefyd eu hannog i godi llais am droseddu a chamfanteisio. Drwy fearless.org. gall pobl ifanc roi gwybodaeth yn hollol gyfrinachol.


Fe wnaethom benderfynu uno i godi ymwybyddiaeth o beryglon troseddau cyllell yn Nhorfaen. Ar ôl cael profiad personol o droseddau cyllell fy hunan ac yn gweithio fel swyddog ymgyfraniad, roeddwn eisiau cychwyn prosiect a fyddai'n codi ymwybyddiaeth a hefyd yn cefnogi creu cymunedau cynaliadwy, iach a diogel.


Drwy'r prosiect, rydym wedi ymgysylltu gyda dros 100 o bobl ifanc o grwpiau ieuenctid ac ysgolion ar draws y fwrdeistref. Mae gweithio gyda Rebecca yn golygu i ni fedru defnyddio ei harbenigedd hi ac fy ngwybodaeth leol innau i fynd i ysgolion uwchradd a phrosiectau fel Tŷ Hales ym Mhont-y-pŵl a'r Hwb ym Mlaenafon, i esbonio sut mae troseddau cyllell yn nes at eu drysau nag y gallent feddwl.


Cafodd cyfleu'r neges yma i dros gant o bobl ifanc effaith fawr. Dywedodd pobl ifanc wrthym ei fod wedi eu darbwyllo i beidio byth gario cyllell na chymryd rhan mewn troseddau cyllell oherwydd y canlyniadau posibl - a dyna'r canlyniad roeddem eisiau ei gyflawni.


Gyda fy ngwybodaeth o'r anawsterau sy'n wynebu pobl ifanc yn Nhorfaen ac arbenigedd Rebecca, rydem wedi medru rhoi blaenoriaeth i weithdai ar gyfer rhai a all fod yn fregus a/neu mewn risg.


Nod ein gweithdai atal yw gostwng yr ofn am droseddau cyllell a'u grymuso a'u haddysgu i fod yn fwy gwybodus a theimlo'n fwy diogel. Cawsom ein synnu gan yr adborth cadarnhaol gan bobl ifanc, gyda 99% o'r rhai a gymerodd ran yn dweud y byddent yn ystyried defnyddio Fearless i roi adroddiad di-enw am drosedd. Rydym yn gobeithio parhau ein gwaith partneriaeth drwy roi cyfle i bobl ifanc eu hunain i gynnal sesiynau yn anelu i ddangos i rieni sut i sylwi ar arwyddion o ymddygiad rheoledig yn eu plant.


Dylai unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am Fearless edrych ar fearless.org.



Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn rhan annatod o'n gwaith dros y 30 mlynedd diwethaf. Gweler ein llinell amser isod:





Edrychwch ar y llinell amser lawn yma (PDF).