Jump to content

16 Mai 2017

5.1 miliwn o ddyddiau dysgu gyda 97% effeithlonrwydd mewn blwyddyn - Ydi hynny'n bosibl?




Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn fuan i drafod heriau cyfredol a'r dyfodol ar gyfer Dysgu a Datblygu a hefyd rannu stori ddiddorol ar ein Profiad Dysgu. Beth am ddialog cyn hynny?


Fy natganiad: Mae pob bod dynol yn unigryw.


Fy nyfaliad o "Lais eich Meddwl": Ydi / Wrth gwrs / Rwy'n cytuno.


Fy natganiad: Mae pob bod dynol yn ddysgwr.


Fy nyfaliad o "Lais eich Meddwl": Ie / Efallai / Efallai ddim


Fy natganiad: Mae gofynion pob dysgwr yn unigryw


Fy nyfaliad o "Lais eich Meddwl": “Gallai fod, ond allwn ni ddim edrych ar ofynion pob dysgwr wrth gynllunio rhaglenni. Bydd ynn amser maith cyn ein bod yn darparu rhaglen sy'n ateb gofynion pob dysgwr"


Fy natganiad: Os oes enghraifft o 300,000+ o bobl mewn sefydliad ym mhedwar ban byd, sydd wedi cofnodi 5.1 miliwn o ddyddiau dysgwyr gyda 97% effeithlonrwydd fel yn ôl yr adborth a roddwyd gan ddysgwyr, beth fyddai eich ymateb?


Fy nyfaliad o "Lais eich Meddwl": Mae'n rhaid eich bod yn tynnu fy nghoes / Dysgwyr ym mhedwar ban byd? / 5.1 miliwn o ddyddiau dysgu mewn blwyddyn / 300,000+ o bobl, ai prifysgol rithiol neu rywbeth ydi hyn?


Fy natganiad: Gadewch i ni fod yn barod i weld, trafod, os mai ffaith neu ffuglen yw hyn, yn ystod Cynhadledd Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu CHC ar 23/24 Mai yng Ngwesty'r Village, Abertawe.


Gweld chi'n fuan!


Gweler y rhaglen ac archebwch eich lle ar ein gwefan. https://chcymru.org.uk/en/events/view/2017-hr-and-ld-conference



Swarna Sudha S
- Pennaeth Datblygu Talent, Tata Consultancy