Oddi wrth y Prif Weithredydd - Croeso!
Bu’n hir yn dod, ond rwy’n falch iawn o fod yn blogio i baratoi am ail-lansiad ar-lein ein cylchgrawn, Cartref.
Mae trawsnewid i blatfform ar-lein yn golygu y bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru i’r eiliad, a gallwn siarad am y materion sy’n bwysig i’n haelodau ar yr adeg pan fyddan nhw’n bwysig. Rydym hefyd eisiau annog ein haelodau a’n partneriaid i ddefnyddio’r platfform yma, felly cofiwch gysylltu os oes yna unrhyw bwnc llosg yr hoffech chi flogio amdano!
Roedd 2016 yn flwyddyn anhygoel o brysur i Cartrefi Cymunedol Cymru. Daeth ein blwyddyn i ben gyda’r Gynhadledd Flynyddol fwyaf llwyddiannus erioed yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, a gallwn fentro dweud fod deufis cyntaf 2017 wedi chwyrlïo hefyd.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein Cynhadledd Flynyddol, rydym wedi ail lansio’n rhaglen digwyddiadau a chynadleddau. Gallwch weld mwy o fanylion ar ein gwefan, ond yn fyr, ar ôl gwrando ar ein haelodau rydym wedi ychwanegu cyfres o ddigwyddiadau newydd ac adnewyddu nifer o hen ffefrynnau. Mae’n bleser gen i ddweud fod mwy nag erioed o gynrychiolwyr eisoes wedi archebu lle i ddod i’n Cynhadledd Llywodraethiant ddydd Iau/Gwener yr wythnos hon.
Mae Llywodraethiant ar y ffordd i ddod yn fater ar frig rhestr blaenoriaethau’r sector yn 2017. Wrth i’r Bwrdd Rheoleiddiol lansio’i adolygiad thematig o lywodraethiant ar draws y sector, byddwn yn bachu ar y cyfle i adolygu’n Cod Llywodraethiant mewn tandem. Rydym hefyd yn aros i glywed am yr argymhelliad a all ddod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â rheoleiddio a’r materion eraill y maen nhw wedi bod yn eu harchwiliai i reoleiddiant y sector yng Nghymru.
Mae’n gwaith lobio yn canolbwyntio ar Lwfans Tai Lleol, ei ddefnydd yn y sector tai cymdeithasol a’r oblygiadau ar gyfer dyfodol tai â chymorth. Rydym wedi cael adborth gwych gan aelodau ar ein cynllun prosiect a gallwch ddisgwyl gweld rhagor o newyddion am hyn a chyfleoedd i gymryd rhan yn ein gwaith yn fuan iawn.
Wrth gwrs, mae gwrthdroi ailddosbarthiad cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus i ddibenion y cyfrifon cyhoeddus hefyd yn rhan allweddol o’n gwaith ac rydyn yn parhau i ennill tir yn dda ar y mater, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru. Mae wedi bod yn enghraifft wych o CHC yn defnyddio’r sgiliau a’r profiad sydd gennym o few y sefydliad yn ogystal â chymryd cyngor proffesiynol pan fo’n addas er mwyn cadw’r pwysau a gyrru’r agenda yn ei blaen.
Yn olaf gen i, bydd ein prosiect Gorwelion Tai yn cymryd can enfawr ymlaen wrth i ni gomisiynu ymchwil i’n helpu i edrych ar sut olwg a all fod ar y byd ymhen 20 mlynedd a beth mae hyn yn ei olygu i gymdeithasau tai. Eto, mae hyn yn brosiect a fydd yn dibynnu ar fewnbwn ein haelodau a phartneriaid eraill ac rydym yn arbennig o awyddus i i gael barn ystod o bobl sydd ddim fel arfer yn rhyngweithio gyda CHC.
Diolch am ddarllen – gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r adnodd newydd!