Jump to content

09 Chwefror 2017

£20m o gyllid ar gyfer Datrysiadau Tai Arloesol



Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £20m mewn cartrefi newydd arloesol.

Gwnaeth Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y cyhoeddiad am y cyllid heddiw (9 Chwefror) yn y Gynhadledd Tai Arloesol yng Nghaerdydd - digwyddiad ar y cyd rhwng CHC, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae'r buddsoddiad yn dilyn y cyhoeddiad am Gytundeb Cyflenwi Tai blaengar rhwng Llywodraeth Cymru, CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi dros gyfnod o bum mlynedd. Mae cymdeithasau tai Cymru wedi ymrwymo i gyflenwi o leiaf 12,500 o gartrefi.

Bydd y cartrefi cynaliadwy arloesol newydd yn helpu i ddileu neu ostwng biliau tanwydd yn sylweddol a bydd yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am y math o gartrefi y dylai eu cefnogi yn y dyfodol.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Mae CHC yn croesawu'r buddsoddiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru mewn datrysiadau arloesol ar gyfer yr argyfwng tai yng Nghymru. Mae angen i ddatrysiadau tai fod yn hyblyg fel y gall y sector barhau i ddarparu ystod eang o opsiynau ar gyfer mwy o bobl. Bydd cyllid o'r rhaglen yn helpu i droi dyheadau yn ddarpariaeth. Mae'r sector yn barod am yr her, a nodir yn y Cytundeb Cyflenwad Tai a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy."

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant: “Mae’r sector tai yng Nghymru yn wynebu llawer o heriau. Gwyddom fod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi, a hynny’n gyflym. Gwyddom fod yn rhaid i’r cartrefi a adeiladwn fod yn rhatach eu gwresogi, yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn medru ymateb yn well i’r heriau demograffig sydd i ddod. Nid yw gwneud dim ond cynyddu nifer y cartrefi a adeiladwn yn ddigon. Adeiladu cartrefi sy’n lleoedd gwych i fyw ac yn dda ar gyfer ein planed yw’r hyn rwyf ei eisiau. Mae angen i ni ddechrau edrych ar arloesi mwy, ar gartrefi y gellir eu hadeiladu’n gyflymach fel paneli mewn ffatrïoedd neu unedau cyfan a gyflenwir i safleoedd ar loriau. Mae angen i ni edrych ar beth y gwnaed cartrefi ohono a beth arall a gynigiant yn nhermau biliau tanwydd, allyriadau carbon a swyddi. Mae hyn yn her fawr ond mae’n bosibl.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae gan awdurdodau lleol rôl lawn i'w chwarae wrth alluogi a chyflenwi'r cartrefi rydym eu hangen ledled Cymru, ac mae'n bwysig gyda'r ffocws a buddsoddiad cynyddol yma mewn tai nad ydym yn colli'r cyfle i ymchwilio modelau newydd o dai sy'n cyflenwi cartrefi mwy effeithiol a fforddiadwy."

Yn ogystal â'r araith gyweirnod gan Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Gynhadledd Tai Arloesol yn clywed gan nifer o siaradwyr yn cynnwys Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac arbenigwyr mewn tai arloesol fel Glen Peters o Western Solar a adeiladodd bentref solar cyntaf Cymru yn Sir Benfro.

Astudiaethau achos

Cymdeithas Tai Hafod

Cymdeithas Tai Hafod oedd y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i symud ei thenantiaid i gartrefi amgylcheddol niwtral. Mae eiddo Hafod yn natblygiad Broadlands ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynlluniau 'Passivhaus' arloesol sydd â'r safon amgylcheddol gorau posibl. Mae'r tai yn aerglos gydag insiwleiddiad ychwanegol i roi perfformiad thermol gwell sy'n dileu'r angen am system wresogi draddodiadol. Mae hyn yn golygu y gallant gael eu gwresogi a'u hoeri'n rhwydd iawn, gan ostwng allyriadau carbon a biliau ynni. Cafodd Hafod dystysgrif Ansawdd Cymeradwy Passivhaus gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BME) ar gyfer y ddau eiddo, a adeiladwyd yn 2011 gan gontractwr lleol Holbrook Construction, ond sy'n awr yn eiddo'r gymdeithas tai ac yn cael eu rheoli ganddi.

United Welsh

Tŷ Llarwydd yng Nglynebwy oedd tŷ dim carbon fforddiadwy cyntaf erioed y Deyrnas Unedig. Cafodd ei adeiladu fel prototeip o dŷ cymdeithasol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2010 yng Nglynebwy. Bu Cymdeithas Tai United Welsh a'u partneriaid Cyngor Blaenau Gwent, penseiri bere a Pendragon Design and Build yn cydweithio i arddangos cysyniad Passivhaus gyda chefnogaeth BRE a Llywodraeth Cymru. Mae paneli solar ffotofoltaig wedi eu gosod ar Dŷ Llarwydd sy'n trosi golau'r haul yn drydan, gan ddarparu 2800 awr cilowat bob blwyddyn. Mae ganddo hefyd system thermol solar sy'n cyflenwi tua 60% o ofynion dŵr poeth blynyddol y cartref. Yn 2012, enillodd Nyree Jones, ei gŵr Anthony a'i merched Shannon-Lee a Demi gystadleuaeth i fyw yn Nhŷ Llarwydd.