Jump to content

28 Tachwedd 2014

1,100 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf ddim yn ddigon da

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw’n datgelu yr amcangyfrifwyd fod 1,100 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn 2013/14. Roedd y mwyafrif, 73%, dros 75 oed. Amcangyfrifir fod y ffigur ar gyfer Cymru a Lloegr yn 18,200, yr isaf ers dechrau cofnodion.

Wrth siarad am y ffigurau dywedodd Chris Jones, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru: “Er bod hyn yn ostyngiad sylweddol o’r llynedd, mae’n dal heb fod yn ddigon da. Roedd gaeaf y llynedd yn gymharol fwyn ac eto bu’n rhaid i lawer o bobl hŷn wneud penderfyniadau anodd am p’un ai i wresogi eu cartref neu fwyta. Gyda 140,000 o aelwydydd pensiynwyr mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, yn golygu eu bod yn gwario mwy na 10% o incwm eu haelwyd, ar gostau tanwydd – mae’r sefyllfa’n debygol o waethygu.”

Fel rhan o’u hymgyrch gaeaf "Trechu tlodi tanwydd", sefydlodd Care & Repair Cymru gronfa caledi gyda 100% o'r arian yn mynd yn uniongyrchol i helpu pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi oer. Maent yn annog pensiynwyr mwy cefnog nad ydynt angen eu Taliad Tanwydd Gaeaf, taliad o rhwng £100 a £300 a gaiff ei dalu'n awtomatig i bensiynwyr bob blwyddyn, i'w gyfrannu i Gofal a Thrwsio i helpu'r rhai sydd mewn gwir angen.

Ychwanegodd Chris: "Y llynedd rhoddodd asiantaethau Gofal a Thrwsio gymorth ar faterion ynni i bron 2,000 o bobl hŷn a chefnogwyd 1,000 o bobl hŷn eraill gyda phroblemau tai llaith. Pe bai pobl yn cyfrannu eu Taliad Tanwydd Gaeaf i ni, byddem yn sicrhau y caiff ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd fwyaf ei angen.

"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf, mae angen i Lywodraethau ail-fantoli ffocws polisi i sicrhau fod trechu tlodi tanwydd ac atal marwolaethau ychwanegol pobl hŷn yn y gaeaf yn cael cymaint o sylw â gostwng allyriadau carbon deuocsid.

"Er y bu nifer o gynlluniau grant llwyddiannus i helpu i wneud gwelliannau i arbed ynni yng nghartrefi pobl, caiff llawer o'r cynlluniau eu gyrru gan dargedau ond nid ydynt bob amser yn cyrraedd y rhai sydd yn yr angen mwyaf. Mae llawer o ddryswch ymysg pobl hŷn am ba help a chefnogaeth sydd ar gael ac nid yw pobl yn cael popeth y mae ganddynt hawl iddo. Nid yw'r system bresennol yn gweithio oherwydd rydym yn dal i fod â phobl sy'n marw yn y gaeaf oherwydd tlodi tanwydd na fyddai'n marw ym misoedd eraill y flwyddyn."

Ychwanegodd Chris: "Rydym ar gael ar ben arall y ffôn, felly os ydych yn berson hŷn neu os oes gennych berthynas, cymydog neu gyfaill sydd angen help, ffoniwch un o'n hasiantaethau lleol ar 0300 111 333. Gall Gofal a Thrwsio ymestyn allan a lledaenu ychydig o garedigrwydd a chynhesrwydd y gaeaf yma."