Jump to content

Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James

An image depicting CHC and Hugh James logos with Hugh James' offices as the background image

About the training

Yng nghyd-destun y diwygio arfaethedig ar gaffael ac i’ch paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Caffael y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithio gyda Hugh James, un o’n parter aelodau masnachol, i greu cyfres o sesiynau hyfforddiant fydd yn eich paratoi ar gyfer y pontio hwn drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithdrefnau cystadleuol, gweithdrefnau dan y trothwy a chyffyrddiad ysgafn a rheoli contractau cyhoeddus. Byddwn hefyd yn trafod fframweithiau a systemau prynu deinamig ac eithrio cynigwyr a gwahardd.

Mae dau opsiwn archebu:

  • Archebu lle ym mhob un o’r 6 sesiwn a chael gostyngiad o 10%
  • Gwneud archebion unigol ar gyfer un neu fwy o’r sesiynau (£65 yr un ar gyfer aelodau a £95 yr un ar gyfer rhai heb fod yn aelodau)

Yr hyfforddwr: Emily Powell

Mae Emily yn bartner yn y tîm corfforaethol a masnachol ac yn arbenigo mewn cynghori’r sector cyhoeddus ar gyfraith gyhoeddus, caffael a rheoli cymorthdaliadau. Rhoddodd Emily gyngor i awdurdodau cyhoeddus ar eu pwerau a dyletswyddau yn cynnwys cynghori awdurdodau lleol ar eu hopsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau anstatudol a sicrhau buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae Emily hefyd wedi cynghori cymdeithasau tai ar eu prosesau caffael a gall gynnig gwasanaeth cyfreithiol cyflawn ar gyfer pob gofyniad caffael a phrosiect. Hefyd mae Emily yn cynnal fforwm ar gyfer ‘penaethiaid’ caffael yn gweithio o fewn y sector tai cymdeithasol.

Training logo