Jump to content

CCC Cynhadledd Llywodraethiant 2026 - Yr hyn rydych angen ei wybod

Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a phwy fydd yng Nghynhadledd Llywodraethiant CCC 2026 ar gael yma.

Angen help cyn neu yn ystod y digwyddiad?

Anfonwch e-bost atom yn enquiries@chcymru.org.uk. Bydd aelod o staff CHC wrth y ddesg gofrestru drwy gydol y gynhadledd i ateb unrhyw ymholiadau.

Cyrraedd yno

Mae CHC yn annog teithio cynaliadwy i'n digwyddiadau. Gweler yr wybodaeth isod ar "sut i gyrraedd yno".

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, Bute Place, Caerdydd CF10 5AL.


Ar feic


Caiff Bae Caerdydd ei gysylltu â chanol y ddinas gan lwybr beiciau Llwybr Taf; edrychwch am arwyddion Llwybr Taf yn rhedeg ar hyd yr afon o gyferbyn â Stadiwm Principality.

Mae hefyd lôn feiciau a llwybr troed yn rhedeg ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd.

Ar drên

Mae Great Western Railway (GWR) yn rhedeg gwasanaethau rhwng Gorllewin Cymru a Llundain Paddington, gan stopio yng ngorsaf Caerdydd Canolog ac mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu llwybrau ledled Cymru.

Mae gwasanaeth trên cyson bob 12 munud o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines i'r Bae sy'n cymryd llai na 5 munud. Ewch i National Rail Enquiries i gynllunio eich taith ar y trên.

Mewn cwch

Mae AquaBus yn rhedeg gwasanaeth bws dwr rhwng Castell Caerdydd i'r Bae. Mae'r bws dwr yn rhedeg o ganol y ddinas i'r bae bob awr, 11am - 5pm bob dydd.

Mae mynediad cadair olwyn llawn i'r cwch, yn ogystal â mynediad gwastad ar gyfer teithwyr musgrell neu oedrannus.


Ar fws


Maer Bws Caerdydd yn gweithredu sawl gwasanaeth i ardal Bae Caerdydd ac mae safle bws tu blaen i Ganolfan Mileniwm Cymru.

Mae'r BayCar yn cysylltu gyda chanol dinas Caerdydd. Mae gwahanol lwybrau eraill yn cysylltu ar draws y ddinas. Ewch i wefan Bws Caerdydd i gynllunio eich taith.

Mewn car

Rydym yn rhwydd ein cyrraedd o tu allan i Gaerdydd drwy draffordd yr M4. I gael y cyfarwyddiadau mwyaf dibynadwy defnyddiwch god post CF10 5AL gyda'ch dyfais Sat Nav.

Os ydych yn dod o'r Gorllewin, gadewch yr M4 yng nghyffordd 33 ac ymuno â'r A4232.

O'r Gogledd, dilynwch yr A470 tuag at Gaerdydd a dilyn arwyddion i Fae Caerdydd.

O'r Dwyrain, gadewch yr M4 yng nghyffordd 29 ac ymuno â'r A48, gan ddilyn arwyddion i Fae Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Eisiau tacsi?

Ffoniwch Veezu 02920 333 333, neu lawrlwythwch eu ap nhw.

Yn ôl i'r brig

Parcio

Mae sawl maes parcio ym Mae Caerdydd. Mae Q-Park Cardiff Bay gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd, defnyddiwch CF10 4PH i gyrraedd y cyfeiriad cywir.

Bydd angen i chi archebu drwy'r wefan, talu £5.00 ac yna anfonir cod QR atoch i'w sganio wrth y rhwystr mynedfa a gadael. Mae'n ddilys am 11 awr ar ddiwrnod eich archeb.

Map Maes Parcio Q-Park Stryd Pierhead (yn agor mewn tab newydd)

ARCHEBWCH YMA

Mae hefyd feysydd parcio yng Nghanolfan y Ddraig Goch, Heol y Forforwyn a Stryd Havannah.

Parcio i'r Anabl

Mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru 17 o ofodau dan do ar gyfer cerbydau ymwelwyr anabl y gellir eu harchebu ymlaen llaw, sy'n hygyrch o Stryd Pierhead ar ochr yr adeilad. Mae'n rhaid archebu'r rhain ymlaen llaw, anfonwch e-bost at lottie.wallond@chcymru.org.uk os ydych angen archebu man parcio i'r anabl.

Mannau parcio ceir i'r anabl o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru (agor mewn tab newydd)

Yn ôl i'r brig

Hygyrchedd

  • Mae’r safle yn hollol hygyrch ond cysylltwch â ni cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion penodol.
  • Mae cylch clywed ar gael yn y brif ystafell. Edrychwch am yr arwyddion ar y cadeiriau yn nodi’r lleoliad gorau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Holwch aelod o staff os hoffech gael cymorth.
  • Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael dros y ddeuddydd. Mae croeso i chi wneud eich cyfraniad yn yr iaith sydd fwyaf cysurus i chi.

Yn ôl i'r brig

Dathlu amrywiaeth

Yn CHC rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein digwyddiadau yn adlewyrchu a hefyd yn dathlu yr amrywiaeth o fewn y cymdeithasau tai sydd yn aelodau i ni a’r cymunedau a wasanaethant.


Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofodau lle mae ein holl gynrychiolwyr yn teimlo’n gysurus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Mae hyn yn cynnwys dynodi gofodau ar gyfer ymarfer crefyddol a rhoi ystyriaeth i anghenion mynychwyr niwroamrywiol.

Daliwch i ddarllen i ganfod sut y rhoddwn hyn ar waith yn ein Cynhadledd Llywodraethiant.

Rydym bob amser yn dysgu ac yn agored i adborth felly os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn enquiries@chcymru.org.uk

Ramadan Kareem!

Ramadan

Cynhelir cynhadledd Llywodraethiant eleni yn ystod mis sanctaidd Ramadan. Oherwydd hyn, rydym yn ymroddedig i sicrhau fod ein holl gydweithwyr Mwslimaidd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys drwy gydol y digwyddiad.

Mosgiau lleol

  • Mosg Madina, Stryd Lucas, CF24 4NZ
  • Mosg Shah Jalal Caerdydd, 19 Heol Crwys, CF24 4NJ
  • Mosg Dar-ul-Isra, Neuadd Sgowtiaid, 21-23 Heol Wyeverne, Caerdydd CF24 4BG
  • Ymddiriedolaeth Canolfan Al-Manar, 2-4 Stryd Glynrhondda, Caerdydd CF24 4AN
  • Canolfan Tawheed Caerdydd, 22 Heol Salisbury, Caerdydd CF24 4AD

Mae’r mosgiau uchod i gyd o fewn 20 munud (neu lai) ar droed o safle’r gynhadledd.

Ystafell weddïo

Mae ystafell weddïo ar gael yn Sbarc drwy gydol y gynhadledd. Gofynnir i chi siarad gydag aelod o dîm y digwyddiad wrth y ddesg gofrestru, a fydd yn hapus i fynd â chi i’r ystafell. Rhoddir dyddiadau yn nes ymlaen yn y dydd, ar gyfer rhai y gall fod angen iddynt dorri eu hympryd.

Arlwyo

Catering will be served in the Awen bar. The COPR Lounge will be catering free and available for the comfort of those fasting. Signage will communicate this to delegates.

Sut y gallaf gefnogi fy nghydweithiwr sy’n cadw Ramadan?

Peidiwch â thybio/cyfathrebwch:

  • Peidiwch â bod yn swil am holi cydweithwyr Mwslimaidd os byddant yn cadw Ramadan.
  • Gall rhai pobl ddewis peidio cymryd rhan – efallai am resymau meddygol – gan fod ymprydio yn ddewis personol.
  • 'Ramadan Mubarak’ Ystyr hyn yw ‘Ramadan Sanctaidd, bydded i Ramadan ddod â bendithion i ni’. Mae’n gyfystyr â dweud Ramadan Hapus a dyma’r cyfarchiad mwyaf poblogaidd ac adnabyddus.
  • ‘Ramadan Kareem’ Ystyr hyn yw ‘Ramadan hael i chi’, gan olygu llawer o wobrwyon i bobl yn ystod y mis.

Byddwch yn ystyriol:

  • Ni ddylai Ramadan ymyrryd â thasgau bob dydd yn y gwaith, ond gall cydweithwyr sy’n ymprydio fod yn flinedig neu’n brin o egni yn ystod y dydd.
  • Os gwyddoch am gydweithwyr sy’n ymprydio, byddwch yn ystyriol wrth drefnu cwrdd â nhw yn ystod y digwyddiad, gan osgoi adegau pan ydych yn debyg o fod yn bwyta.


Yn ôl i'r brig

Arlwyo

Caiff bwyd a diod ei ddarparu yn Bar Awen.

Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion dietegol (llysieuol, fegan, unrhyw alergeddau ac yn y blaen).

Yn ôl i'r brig

Cod gwisg

Smart/busnes

Yn ôl i'r brig

Iechyd a Diogelwch

  • Mae gan gynrychiolwyr ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol o’u diogelwch eu hunain pan fyddant yn mynychu digwyddiadau ac mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau diogelwch eraill os yw eu gweithgareddau eu hunain yn effeithio arnynt.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr ymhel â nac addasu unrhyw offer, gosodiad neu gelfi yn y digwyddiad heb ganiatâd penodol gan y trefnwyr.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr fynd i mewn i unrhyw ardal gyfyngedig.

  • Bydd gan gynrychiolwyr fynediad i ofod ystafell gotiau mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb ond maent yn llwyr gyfrifol am eu heiddo eu hunain.

  • Os ydynt yn yfed alcohol, disgwylir i gynrychiolwyr hynny wneud hynny yn gyfrifol a dim ond pan ganiateir hynny fel rhan o ddigwyddiad wyneb yn wyneb.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr ddod ag unrhyw alcohol i mewn o du allan y safle i unrhyw ddigwyddiad wyneb yn wyneb os na chawsant ganiatâd i wneud hynny gan y trefnwyr.

  • Nid yw CHC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf neu farwolaeth unrhyw berson tra’n mynychu un o’n digwyddiadau, os na chafodd yr anaf neu’r farwolaeth honno eu hachosi gan esgeulustod CHC.

Mewn sefyllfa argyfwng, gofynnir i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan staff y Techniquest. Mae eich cydweithrediad yn hanfodol a chaiff ei werthfawrogi.

Yn ôl i'r brig

Cod ymddygiad

Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i gydymffurfio gyda’n Cod Ymddygiad

Diben
Diben y cod yw sicrhau y caiff profiad y sawl sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) ei lywodraethu gan egwyddorion ymddygiad cyfrifol a threfnus.

Cwmpas
Mae’r cod hwn yn weithredol i gynrychiolwyr, staff CHC a llawer o bobl eraill sy’n mynychu cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd a drefnir gan CHC.

Cod
Mae CHC yn ymroddedig i wneud ei ddigwyddiadau yn gynhyrchiol ac y gall pawb eu mwynhau, beth bynnag eu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, hil, cenedligrwydd, dinasyddiaeth neu gredo. Ni fyddwn yn goddef aflonyddu o unrhyw fath. Disgwylir i bob cynrychiolydd gydymffurfio gyda’r tair prif egwyddor ganlynol yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.

  • Dylai’r sawl sy’n mynychu CHC ymddwyn mewn modd cyfrifol na fydd yn dod ag anfri i’w enw da nhw eu hunain, eu sefydliad, y sector cymdeithasau tai a/neu CHC

  • Bydd y sawl sy’n mynychu digwyddiadau CHC yn dangos parch at gynrychiolwyr eraill, arddangoswyr, siaradwyr, arweinwyr gweithdai, staff CHC a staff y lleoliad a phobl eraill o fewn libart digwyddiad

  • Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu digwyddiadau gydymffurfio gydag unrhyw geisiadau rhesymol a wneir gan CHC neu staff y gwesty sydd yng ngofal ac yn rhedeg y digwyddiad

Enghreifftiau

Gallai toriadau’r cod gynnwys:

  • Ymyrryd diangen ar sesiynau, gweithdai, cinio a gweithgareddau eraill y digwyddiad

  • Aflonyddu rhywiol, hiliol neu fath arall o aflonyddu

  • Ymddygiad bygythiol neu dreisgar

  • Iaith sarhaus

  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau

  • Ymddygiad anweddus

  • Gweithred droseddol

Gweithredu’r Cod

Bydd staff CHC yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cod a gall ofyn am help personél o’r un gymdeithas tai neu gymorth gan awdurdod priodol os teimlant fod y cod yn cael ei dorri. Byddwn yn dilyn unrhyw doriadau ar y cod gyda gweithredu priodol, a all gynnwys tynnu’r cynrychiolydd o’r digwyddiad a/neu hysbysu sefydliad y cynrychiolydd am y digwyddiad gyda’r camau gweithredu a gymerwyd a manylion unrhyw dystion.

Yn ôl i'r brig

Cyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn rhannu uchafbwyntiau allweddol o’r gynhadledd ar ein tudalen LinkedIn gyda hashnod #CHCGov26

Yn ôl i'r brig

Rydym hefyd wedi paratoi dyluniad y gallwch eu defnyddio yn eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun i adael i’ch cysylltiadau wybod y byddwch yn ymuno â ni yn y gynhadledd.

Ffotograffiaeth a fideo

  • Bydd ffotograffiaeth a ffilmio drwy gydol y dydd.
  • Caiff ffotograffau a fideos eu defnyddio ar gyfer deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd Cartrefi Cymunedol Cymru, yn cynnwys cael eu lanlwytho i’n gwefan a’uidefnyddio mewn gweithgareddau hyrwyddo eraill. Mae hyn yn cynnwys y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol (e.e. LinkedIn) ac mewn deunyddiau hyrwyddo eraill.
  • Bydd ffotograffydd o’r safle hefyd yn bresennol. Caiff unrhyw luniau a ddefnyddir yn neunydd marchnata Canolfan Mileniwm Cymru eu cymeradwyo gan Cartrefi Cymunedol Cymru cyn eu cyhoeddi.
  • Cewch laniard lliw gwahanol os ydych wedi dweud na ddymunwch i’ch llun gael ei dynnu. Cafodd ffotograffydd y safle hefyd ei hysbysu am y trefniadau hyn.
  • Gallwch hefyd ein hysbysu ar y dydd am eich dewis.

    Yn ôl i'r brig