CCC Cynhadledd Llywodraethiant a Risg 2025 - Yr hyn rydych angen ei wybod
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a phwy fydd yng Nghynhadledd Llywodraethiant a Risg CCC ar gael yma.
Angen help cyn neu yn ystod y digwyddiad?
Anfonwch e-bost atom yn enquiries@chcymru.org.uk. Bydd aelod o staff CHC wrth y ddesg gofrestru drwy gydol y gynhadledd i ateb unrhyw ymholiadau.
Er gwybodaeth i chi
Cyrraedd yno
Mae CHC yn annog teithio cynaliadwy i’n digwyddiadau. Dyma’r ffyrdd gorau i gyrraedd y lleoliad.
Ar feic
Mae lleoedd tu allan i barcio beiciau yn ymyl prif fynedfa Sbarc. Gofynnir i chi nodi na all y lleoliad na CHC dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i feiciau a gaiff eu gadael yno.
Ar drên
Mae Sbarc o fewn 10 munud ar droed o orsaf reilffordd Cathays. Edrychwch ar y map isod i gael y llwybr cyflymaf.
Mae gwasanaethau trên rheolaidd o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Cathays. Gallwch gynllunio eich taith yma.
Ar fws
Mae nifer o safleoedd bws cyfagos ar Maindy Road, Cathays Terrace ac Albany Road, i gyd o fewn cyrraedd rhwydd i adeilad Sbarc. Gallwch gynllunio eich taith yma.
Parcio
Mae parcio hygyrch ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar gael tu blaen i Sbarc. Gadewch i ni wybod os hoffech le, byddwn yn gwneud yn siŵr fod un ar gael ar eich cyfer.
Mae parcio talu ac arddangos ar y stryd ar hyd Maindy Road a’r ardaloedd cyfagos. Gallwch ddefnyddio ap MiPermit (ar gael ar Google Play neu App Store) i dalu am barcio neu ffonio’r rhif ar yr arwydd a ddangosir wrth ymyl y lleoedd parcio. Fodd bynnag, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig iawn ac am uchafswm o 5 awr, felly rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Eisiau tacsi?
Ffoniwch Veezu 02920 333 333, neu lawrlwythwch eu ap nhw.
Yn ôl i'r brig
Hygyrchedd
- Mae’r safle yn hollol hygyrch ond cysylltwch â ni cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion penodol.
- Caiff cylch clywed ei osod o amgylch prif ardal y llwyfan, gan wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i rai sy’n defnyddio cymorth clyw. Holwch aelod o staff os ydych angen mwy o gymorth os gwelwch yn dda.
- Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael dros y ddeuddydd. Mae croeso i chi wneud eich cyfraniad yn yr iaith sydd fwyaf cysurus i chi.
Dathlu amrywiaeth
Yn CHC rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein digwyddiadau yn adlewyrchu a hefyd yn dathlu yr amrywiaeth o fewn y cymdeithasau tai sydd yn aelodau i ni a’r cymunedau a wasanaethant.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofodau lle mae ein holl gynrychiolwyr yn teimlo’n gysurus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Mae hyn yn cynnwys dynodi gofodau ar gyfer ymarfer crefyddol a rhoi ystyriaeth i anghenion mynychwyr niwroamrywiol.
Daliwch i ddarllen i ganfod sut y rhoddwn hyn ar waith yn ein Cynhadledd Llywodraethiant.
Rydym bob amser yn dysgu ac yn agored i adborth felly os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn enquiries@chcymru.org.uk
Ramadan Mubarak!
Ramadan
Cynhelir cynhadledd Llywodraethiant eleni yn ystod mis sanctaidd Ramadan. Oherwydd hyn, rydym yn ymroddedig i sicrhau fod ein holl gydweithwyr Mwslimaidd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys drwy gydol y digwyddiad.
Mosgiau lleol
- Mosg Madina, Stryd Lucas, CF24 4NZ
- Mosg Shah Jalal Caerdydd, 19 Heol Crwys, CF24 4NJ
- Mosg Dar-ul-Isra, Neuadd Sgowtiaid, 21-23 Heol Wyeverne, Caerdydd CF24 4BG
- Ymddiriedolaeth Canolfan Al-Manar, 2-4 Stryd Glynrhondda, Caerdydd CF24 4AN
- Canolfan Tawheed Caerdydd, 22 Heol Salisbury, Caerdydd CF24 4AD
Mae’r mosgiau uchod i gyd o fewn 20 munud (neu lai) ar droed o safle’r gynhadledd.
Ystafell weddïo
Mae ystafell weddïo ar gael yn Sbarc drwy gydol y gynhadledd. Gofynnir i chi siarad gydag aelod o dîm y digwyddiad wrth y ddesg gofrestru, a fydd yn hapus i fynd â chi i’r ystafell. Rhoddir dyddiadau yn nes ymlaen yn y dydd, ar gyfer rhai y gall fod angen iddynt dorri eu hympryd.
Arlwyo
Caiff arlwyo ei ddarparu yn union tu allan i brif ofod y digwyddiad. Ni fydd dim arlwyo yn yr ystafell grwpiau ar y llawr cyntaf a bydd ar gael er cysur y rhai sy’n ymprydio. Bydd arwyddion yn cyfleu hyn i gynrychiolwyr.
Sut y gallaf gefnogi fy nghydweithiwr sy’n cadw Ramadan?
Peidiwch â thybio/cyfathrebwch:
- Peidiwch â bod yn swil am holi cydweithwyr Mwslimaidd os byddant yn cadw Ramadan.
- Gall rhai pobl ddewis peidio cymryd rhan – efallai am resymau meddygol – gan fod ymprydio yn ddewis personol.
- 'Ramadan Mubarak’ Ystyr hyn yw ‘Ramadan Sanctaidd, bydded i Ramadan ddod â bendithion i ni’. Mae’n gyfystyr â dweud Ramadan Hapus a dyma’r cyfarchiad mwyaf poblogaidd ac adnabyddus.
- ‘Ramadan Kareem’ Ystyr hyn yw ‘Ramadan hael i chi’, gan olygu llawer o wobrwyon i bobl yn ystod y mis.
Byddwch yn ystyriol:
- Ni ddylai Ramadan ymyrryd â thasgau bob dydd yn y gwaith, ond gall cydweithwyr sy’n ymprydio fod yn flinedig neu’n brin o egni yn ystod y dydd.
- Os gwyddoch am gydweithwyr sy’n ymprydio, byddwch yn ystyriol wrth drefnu cwrdd â nhw yn ystod y digwyddiad, gan osgoi adegau pan ydych yn debyg o fod yn bwyta.
Ystafell dawel
Bydd yr ystafell hon, a elwir yn ‘ystafell teulu’ ac sydd ar y llawr daear, ar gael drwy gydol y gynhadledd ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo angen i gamu ymaith o brysurdeb y gynhadledd.
Os ydych angen gofod, dewch atom yn y dderbynfa ac awn â chi draw i’r ystafell.
Dylid cofio na fydd cyfarfodydd na galwadau ffôn yn yr ystafell yma. Os ydych angen cael cyfarfod brys ar gyfer gwaith, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda a gwnawn eich gorau i fynd â chi i ofod addas.
Arlwyo
Caiff arlwyo ei ddarparu yn union tu allan i brif ofod y digwyddiad.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion dietegol (llysieuol, fegan, unrhyw alergeddau ac yn y blaen).
Yn ôl i'r brig
Cod gwisg
Smart/busnes
Yn ôl i'r brig
Iechyd a Diogelwch
Mae gan gynrychiolwyr ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol o’u diogelwch eu hunain pan fyddant yn mynychu digwyddiadau ac mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau diogelwch eraill os yw eu gweithgareddau eu hunain yn effeithio arnynt.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr ymhel â nac addasu unrhyw offer, gosodiad neu gelfi yn y digwyddiad heb ganiatâd penodol gan y trefnwyr.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr fynd i mewn i unrhyw ardal gyfyngedig.
Bydd gan gynrychiolwyr fynediad i ofod ystafell gotiau mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb ond maent yn llwyr gyfrifol am eu heiddo eu hunain.
Os ydynt yn yfed alcohol, disgwylir i gynrychiolwyr hynny wneud hynny yn gyfrifol a dim ond pan ganiateir hynny fel rhan o ddigwyddiad wyneb yn wyneb.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr ddod ag unrhyw alcohol i mewn o du allan y safle i unrhyw ddigwyddiad wyneb yn wyneb os na chawsant ganiatâd i wneud hynny gan y trefnwyr.
Nid yw CHC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf neu farwolaeth unrhyw berson tra’n mynychu un o’n digwyddiadau, os na chafodd yr anaf neu’r farwolaeth honno eu hachosi gan esgeulustod CHC.
Mewn sefyllfa argyfwng, gofynnir i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan staff y Techniquest. Mae eich cydweithrediad yn hanfodol a chaiff ei werthfawrogi.
Yn ôl i'r brig
Cod ymddygiad
Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i gydymffurfio gyda’n Cod Ymddygiad
Diben
Diben y cod yw sicrhau y caiff profiad y sawl sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) ei lywodraethu gan egwyddorion ymddygiad cyfrifol a threfnus.
Cwmpas
Mae’r cod hwn yn weithredol i gynrychiolwyr, staff CHC a llawer o bobl eraill sy’n mynychu cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd a drefnir gan CHC.
Cod
Mae CHC yn ymroddedig i wneud ei ddigwyddiadau yn gynhyrchiol ac y gall pawb eu mwynhau, beth bynnag eu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, hil, cenedligrwydd, dinasyddiaeth neu gredo. Ni fyddwn yn goddef aflonyddu o unrhyw fath. Disgwylir i bob cynrychiolydd gydymffurfio gyda’r tair prif egwyddor ganlynol yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.
Dylai’r sawl sy’n mynychu CHC ymddwyn mewn modd cyfrifol na fydd yn dod ag anfri i’w enw da nhw eu hunain, eu sefydliad, y sector cymdeithasau tai a/neu CHC
Bydd y sawl sy’n mynychu digwyddiadau CHC yn dangos parch at gynrychiolwyr eraill, arddangoswyr, siaradwyr, arweinwyr gweithdai, staff CHC a staff y lleoliad a phobl eraill o fewn libart digwyddiad
Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu digwyddiadau gydymffurfio gydag unrhyw geisiadau rhesymol a wneir gan CHC neu staff y gwesty sydd yng ngofal ac yn rhedeg y digwyddiad
Enghreifftiau
Gallai toriadau’r cod gynnwys:
Ymyrryd diangen ar sesiynau, gweithdai, cinio a gweithgareddau eraill y digwyddiad
Aflonyddu rhywiol, hiliol neu fath arall o aflonyddu
Ymddygiad bygythiol neu dreisgar
Iaith sarhaus
Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
Ymddygiad anweddus
Gweithred droseddol
Gweithredu’r Cod
Bydd staff CHC yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cod a gall ofyn am help personél o’r un gymdeithas tai neu gymorth gan awdurdod priodol os teimlant fod y cod yn cael ei dorri. Byddwn yn dilyn unrhyw doriadau ar y cod gyda gweithredu priodol, a all gynnwys tynnu’r cynrychiolydd o’r digwyddiad a/neu hysbysu sefydliad y cynrychiolydd am y digwyddiad gyda’r camau gweithredu a gymerwyd a manylion unrhyw dystion.
Yn ôl i'r brig
Cyfryngau cymdeithasol
Byddwn yn rhannu uchafbwyntiau allweddol o’r gynhadledd ar ein tudalen LinkedIn gyda hashnod #GovConf25
Yn ôl i'r brig
Ffotograffiaeth a fideo
Byddwn yn tynnu ffotograffau ac yn ffilmio dros y 2 ddiwrnod.
Dim ond ar gyfer deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd CHC y caiff y lluniau eu defnyddio, yn cynnwys cael eu lanlwytho i’n gwefan a’u defnyddio mewn gweithgareddau hyrwyddo eraill.
Mae hyn yn cynnwys y rhyngrwyd, ar y cyfryngau cymdeithasol (h.y. LinkedIn ac BlueSky) ac mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo eraill.
Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gasglwn ei throsglwyddo i unrhyw reolydd trydydd parti a dim ond Cartrefi Cymunedol Cymru fydd yn ei defnyddio.
Rhowch wybod i aelod o staff CCC os gwelwch yn dda os na ddymunwch i’ch llun gael ei rannu.
Yn ôl i'r brig