Jump to content

Cynhadledd Cyllid 2025 - Yr hyn rydych angen ei wybod

Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a phwy fydd yn Cynhadledd Cyllid CCC ar gael yma.

Angen help cyn neu yn ystod y digwyddiad?

Anfonwch e-bost atom yn enquiries@chcymru.org.uk. Bydd aelod o staff CHC wrth y ddesg gofrestru drwy gydol y gynhadledd i ateb unrhyw ymholiadau.

Cyrraedd yno

Mae CHC yn annog teithio cynaliadwy i’n digwyddiadau. Dyma’r ffyrdd gorau i gyrraedd y lleoliad.

Teithio ar y tren

Mae gorsaf reilffordd Landrindod 5 munud i ffwrdd ar droed o’r gwesty.

Teithio mewn car

Ar gyfer teithio mewn car, rhowch y cod post LD1 5DEY yn eich sat-naf. Mae maes parcio yng nghefn y gwesty.

Mae mannau gwefru trydan ar gael yn y gwesty, i gael mwy o wybodaeth edrychwch ar BP Pulse

Mwy o wybodaeth yma


Yn ôl i'r brig

Hygyrchedd

  • Mae’r lleoliad yn hollol hygyrch ond gofynnir i chi gysylltu â ni cyn y digwyddiad os oes gennych unrhyw ofynion penodol.
  • Bydd cylch clywed ar gael ym mhrif ystafell y gynhadledd (Ystafell Powys). Eisteddwch yn y rhes flaen os gwelwch yn dda a hysbysu aelod o staff os dymunwch ddefnyddio’r cylch clywed.
  • Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael dros y ddeuddydd. Mae croeso i chi wneud eich cyfraniad yn yr iaith sydd fwyaf cysurus i chi.

Yn ôl i'r brig

Prif lwyfan ac ystafelloedd gweithdai

Bydd y prif lwyfan yn Ystafell Powys a chynhelir y gweithdai yn Ystafell Powys, yr Ystafell Gardd ac Ystafell Wedgewood. Mae manylion ystafelloedd pob sesiwn ar gael yn yr agenda. Bydd arwyddion ar gael drwy gydol y digwyddiad a bydd staff CHC yn bresennol i helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Yn ôl i'r brig

Mae pawb yn croeso

Mae CHC yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein digwyddiadau yn adlewyrchu a hefyd yn dathlu amrywiaeth o fewn y cymdeithasau tai sy’n aelodau o CHC a’r cymunedau a wasanaethant.

Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofodau lle mae ein holl gynrychiolwyr yn teimlo’n gysurus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Mae hyn yn cynnwys dynodi gofod ar gyfer ymarfer crefyddol a rhoi ystyriaeth i anghenion mynychwyr niwroamrywiol.

Gweddi


Bydd yr Ystafell Elan, lleoli yn y lawr gwaelod ger y Ystafell Gardd, ar gael ar gyfer gweddi drwy gydol y gynhadledd. Dewch i’n gweld wrth y ddesg gofrestru i ofyn am allwedd yr ystafell.

Ystafell dawel

Bydd Ystafell Haul Wedgewood ar agor drwy gydol y gynhadledd ar gyfer unrhyw un sydd angen camu ymaith o brysurdeb y gynhadledd.

Gofynnir i chi gofio y bydd yr ystafell hefyd yn ardal rhydd o gyfarfodydd a galwadau ffôn. Os ydych angen cynnal cyfarfod gwaith brys, gadewch i ni wybod a gwnawn ein gorau i ganfod gofod addas ar eich cyfer.

Rydym bob amser yn dysgu ac yn agored i adborth felly os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn enquiries@chcymru.org.uk

Yn ôl i'r brig

Arlwyo

Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion dietegol (llysieuol, fegan, unrhyw alergeddau ac yn y blaen).

Yn ôl i'r brig

Cod gwisg

Trwsiadus/anffurfiol ar gyfer y diwrnod a’r cinio.

Yn ôl i'r brig

Iechyd a Diogelwch

  • Mae gan gynrychiolwyr ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol o’u diogelwch eu hunain pan fyddant yn mynychu digwyddiadau ac mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau diogelwch eraill os yw eu gweithgareddau eu hunain yn effeithio arnynt.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr ymhel â nac addasu unrhyw offer, gosodiad neu gelfi yn y digwyddiad heb ganiatâd penodol gan y trefnwyr.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr fynd i mewn i unrhyw ardal gyfyngedig.

  • Bydd gan gynrychiolwyr fynediad i ofod ystafell gotiau mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb ond maent yn llwyr gyfrifol am eu heiddo eu hunain.

  • Os ydynt yn yfed alcohol, disgwylir i gynrychiolwyr hynny wneud hynny yn gyfrifol a dim ond pan ganiateir hynny fel rhan o ddigwyddiad wyneb yn wyneb.

  • Ni chaniateir i gynrychiolwyr ddod ag unrhyw alcohol i mewn o du allan y safle i unrhyw ddigwyddiad wyneb yn wyneb os na chawsant ganiatâd i wneud hynny gan y trefnwyr.

  • Nid yw CHC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf neu farwolaeth unrhyw berson tra’n mynychu un o’n digwyddiadau, os na chafodd yr anaf neu’r farwolaeth honno eu hachosi gan esgeulustod CHC.

Mewn sefyllfa argyfwng, gofynnir i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan staff y Gwesty Metropole. Mae eich cydweithrediad yn hanfodol a chaiff ei werthfawrogi.

Yn ôl i'r brig

Cod ymddygiad

Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i gydymffurfio gyda’n Cod Ymddygiad

Diben
Diben y cod yw sicrhau y caiff profiad y sawl sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) ei lywodraethu gan egwyddorion ymddygiad cyfrifol a threfnus.

Cwmpas
Mae’r cod hwn yn weithredol i gynrychiolwyr, staff CHC a llawer o bobl eraill sy’n mynychu cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd a drefnir gan CHC.

Cod
Mae CHC yn ymroddedig i wneud ei ddigwyddiadau yn gynhyrchiol ac y gall pawb eu mwynhau, beth bynnag eu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, hil, cenedligrwydd, dinasyddiaeth neu gredo. Ni fyddwn yn goddef aflonyddu o unrhyw fath. Disgwylir i bob cynrychiolydd gydymffurfio gyda’r tair prif egwyddor ganlynol yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.

  • Dylai’r sawl sy’n mynychu CHC ymddwyn mewn modd cyfrifol na fydd yn dod ag anfri i’w enw da nhw eu hunain, eu sefydliad, y sector cymdeithasau tai a/neu CHC

  • Bydd y sawl sy’n mynychu digwyddiadau CHC yn dangos parch at gynrychiolwyr eraill, arddangoswyr, siaradwyr, arweinwyr gweithdai, staff CHC a staff y lleoliad a phobl eraill o fewn libart digwyddiad

  • Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu digwyddiadau gydymffurfio gydag unrhyw geisiadau rhesymol a wneir gan CHC neu staff y gwesty sydd yng ngofal ac yn rhedeg y digwyddiad

Enghreifftiau

Gallai toriadau’r cod gynnwys:

  • Ymyrryd diangen ar sesiynau, gweithdai, cinio a gweithgareddau eraill y digwyddiad

  • Aflonyddu rhywiol, hiliol neu fath arall o aflonyddu

  • Ymddygiad bygythiol neu dreisgar

  • Iaith sarhaus

  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau

  • Ymddygiad anweddus

  • Gweithred droseddol

Gweithredu’r Cod

Bydd staff CHC yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cod a gall ofyn am help personél o’r un gymdeithas tai neu gymorth gan awdurdod priodol os teimlant fod y cod yn cael ei dorri. Byddwn yn dilyn unrhyw doriadau ar y cod gyda gweithredu priodol, a all gynnwys tynnu’r cynrychiolydd o’r digwyddiad a/neu hysbysu sefydliad y cynrychiolydd am y digwyddiad gyda’r camau gweithredu a gymerwyd a manylion unrhyw dystion.

Yn ôl i'r brig

Cyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn rhannu uchafbwyntiau allweddol o’r gynhadledd ar ein tudalen LinkedIn a BlueSky. Defnyddiwch hashnod #CHCFinance25 i ymuno yn y sgwrs!

Yn ôl i'r brig

Rydym hefyd wedi paratoi dyluniad y gallwch eu defnyddio yn eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun i adael i’ch cysylltiadau wybod y byddwch yn ymuno â ni yn y gynhadledd. Gallwch ei lawrlwytho isod.

Ffotograffiaeth a fideo

Cynhelir ffotograffiaeth a ffilmio dros y dau ddiwrnod.

Dim ond ar gyfer gweithgareddau marchnata, a all gynnwys sylw ar ein gwefan, LinkedIn a BlueSky a deunyddiau hybu’r digwyddiad, y defnyddir pob ffotograff.

Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gasglwn ei rhoi i unrhyw reolwyr trydydd parti a dim ond Cartrefi Cymunedol Cymru fydd yn ei defnyddio.

Gofynnwyd i bob cynrychiolydd pan oeddent yn archebu i roi cydsyniad i ffotograffau. Rhoddir laniard coch gyda’u bathodyn i’r rhai a ofynnodd am beidio cael eu cynnwys mewn ffotograffau. Os ydych wedi newid eich meddwl neu os cafodd yr archeb ei gwneud gan rywun arall, gadewch i ni wybod pan fyddwch yn casglu eich bathodyn wrth y ddesg gofrestru.


Yn ôl i'r brig