Un Gynhadledd Tai Fawr 2025 - Yr hyn rydych angen ei wybod
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen a phwy fydd yn Un Gynhadledd Tai Fawr CCC ar gael yma.
Angen help cyn neu yn ystod y digwyddiad?
Anfonwch e-bost atom yn enquiries@chcymru.org.uk. Bydd aelod o staff CHC wrth y ddesg gofrestru drwy gydol y gynhadledd i ateb unrhyw ymholiadau.
Er gwybodaeth i chi
Cyrraedd yno
Mae CHC yn annog teithio cynaliadwy i’n digwyddiadau. Dyma’r ffyrdd gorau i gyrraedd y lleoliad.
Teithio ar y tren
Mae gorsaf reilffordd Landrindod 5 munud i ffwrdd ar droed o’r gwesty.
Teithio mewn car
Ar gyfer teithio mewn car, rhowch y cod post LD1 5DEY yn eich sat-naf. Mae maes parcio yng nghefn y gwesty.
Mae mannau gwefru trydan ar gael yn y gwesty, i gael mwy o wybodaeth edrychwch ar BP Pulse
Mwy o wybodaeth yma
Hygyrchedd
- Mae’r lleoliad yn hollol hygyrch ond gofynnir i chi gysylltu â ni cyn y digwyddiad os oes gennych unrhyw ofynion penodol.
- Bydd cylch clywed ar gael ym mhrif ystafell y gynhadledd (Ystafell Powys). Eisteddwch yn y rhes flaen os gwelwch yn dda a hysbysu aelod o staff os dymunwch ddefnyddio’r cylch clywed.
- Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael dros y ddeuddydd. Mae croeso i chi wneud eich cyfraniad yn yr iaith sydd fwyaf cysurus i chi.
Prif lwyfan ac ystafelloedd gweithdai
Bydd y prif lwyfan yn Ystafell Powys a chynhelir y gweithdai yn Ystafell Powys, yr Ystafell Gardd ac Ystafell Wedgewood. Mae manylion ystafelloedd pob sesiwn ar gael yn yr agenda. Bydd arwyddion ar gael drwy gydol y digwyddiad a bydd staff CHC yn bresennol i helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Yn ôl i'r brig
Mae pawb yn croeso
Mae CHC yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein digwyddiadau yn adlewyrchu a hefyd yn dathlu amrywiaeth o fewn y cymdeithasau tai sy’n aelodau o CHC a’r cymunedau a wasanaethant.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofodau lle mae ein holl gynrychiolwyr yn teimlo’n gysurus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Mae hyn yn cynnwys dynodi gofod ar gyfer ymarfer crefyddol a rhoi ystyriaeth i anghenion mynychwyr niwroamrywiol.
Gweddi
Bydd yr Ystafell Fwrdd ar lawr cyntaf y gwesty ar gael ar gyfer gweddi drwy gydol y gynhadledd. Dewch i’n gweld wrth y ddesg gofrestru i ofyn am allwedd yr ystafell.
Ystafell dawel
Bydd Ystafell Haul Wedgewood ar agor drwy gydol y gynhadledd ar gyfer unrhyw un sydd angen camu ymaith o brysurdeb y gynhadledd.
Gofynnir i chi gofio y bydd yr ystafell hefyd yn ardal rhydd o gyfarfodydd a galwadau ffôn. Os ydych angen cynnal cyfarfod gwaith brys, gadewch i ni wybod a gwnawn ein gorau i ganfod gofod addas ar eich cyfer.
Rydym bob amser yn dysgu ac yn agored i adborth felly os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn enquiries@chcymru.org.uk
Yn ôl i'r brig
Arlwyo
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ofynion dietegol (llysieuol, fegan, unrhyw alergeddau ac yn y blaen).
Yn ôl i'r brig
Cod gwisg
Trwsiadus/anffurfiol ar gyfer y diwrnod a’r cinio.
Yn ôl i'r brig
Iechyd a Diogelwch
Mae gan gynrychiolwyr ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol o’u diogelwch eu hunain pan fyddant yn mynychu digwyddiadau ac mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau diogelwch eraill os yw eu gweithgareddau eu hunain yn effeithio arnynt.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr ymhel â nac addasu unrhyw offer, gosodiad neu gelfi yn y digwyddiad heb ganiatâd penodol gan y trefnwyr.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr fynd i mewn i unrhyw ardal gyfyngedig.
Bydd gan gynrychiolwyr fynediad i ofod ystafell gotiau mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb ond maent yn llwyr gyfrifol am eu heiddo eu hunain.
Os ydynt yn yfed alcohol, disgwylir i gynrychiolwyr hynny wneud hynny yn gyfrifol a dim ond pan ganiateir hynny fel rhan o ddigwyddiad wyneb yn wyneb.
Ni chaniateir i gynrychiolwyr ddod ag unrhyw alcohol i mewn o du allan y safle i unrhyw ddigwyddiad wyneb yn wyneb os na chawsant ganiatâd i wneud hynny gan y trefnwyr.
Nid yw CHC yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf neu farwolaeth unrhyw berson tra’n mynychu un o’n digwyddiadau, os na chafodd yr anaf neu’r farwolaeth honno eu hachosi gan esgeulustod CHC.
Mewn sefyllfa argyfwng, gofynnir i chi ddilyn cyfarwyddiadau gan staff y Gwesty Metropole. Mae eich cydweithrediad yn hanfodol a chaiff ei werthfawrogi.
Yn ôl i'r brig
Cod ymddygiad
Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad i gydymffurfio gyda’n Cod Ymddygiad
Diben
Diben y cod yw sicrhau y caiff profiad y sawl sy’n mynychu digwyddiadau Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) ei lywodraethu gan egwyddorion ymddygiad cyfrifol a threfnus.
Cwmpas
Mae’r cod hwn yn weithredol i gynrychiolwyr, staff CHC a llawer o bobl eraill sy’n mynychu cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd a drefnir gan CHC.
Cod
Mae CHC yn ymroddedig i wneud ei ddigwyddiadau yn gynhyrchiol ac y gall pawb eu mwynhau, beth bynnag eu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ymddangosiad corfforol, hil, cenedligrwydd, dinasyddiaeth neu gredo. Ni fyddwn yn goddef aflonyddu o unrhyw fath. Disgwylir i bob cynrychiolydd gydymffurfio gyda’r tair prif egwyddor ganlynol yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.
Dylai’r sawl sy’n mynychu CHC ymddwyn mewn modd cyfrifol na fydd yn dod ag anfri i’w enw da nhw eu hunain, eu sefydliad, y sector cymdeithasau tai a/neu CHC
Bydd y sawl sy’n mynychu digwyddiadau CHC yn dangos parch at gynrychiolwyr eraill, arddangoswyr, siaradwyr, arweinwyr gweithdai, staff CHC a staff y lleoliad a phobl eraill o fewn libart digwyddiad
Bydd angen i’r sawl sy’n mynychu digwyddiadau gydymffurfio gydag unrhyw geisiadau rhesymol a wneir gan CHC neu staff y gwesty sydd yng ngofal ac yn rhedeg y digwyddiad
Enghreifftiau
Gallai toriadau’r cod gynnwys:
Ymyrryd diangen ar sesiynau, gweithdai, cinio a gweithgareddau eraill y digwyddiad
Aflonyddu rhywiol, hiliol neu fath arall o aflonyddu
Ymddygiad bygythiol neu dreisgar
Iaith sarhaus
Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
Ymddygiad anweddus
Gweithred droseddol
Gweithredu’r Cod
Bydd staff CHC yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cod a gall ofyn am help personél o’r un gymdeithas tai neu gymorth gan awdurdod priodol os teimlant fod y cod yn cael ei dorri. Byddwn yn dilyn unrhyw doriadau ar y cod gyda gweithredu priodol, a all gynnwys tynnu’r cynrychiolydd o’r digwyddiad a/neu hysbysu sefydliad y cynrychiolydd am y digwyddiad gyda’r camau gweithredu a gymerwyd a manylion unrhyw dystion.
Yn ôl i'r brig
Cyfryngau cymdeithasol
Byddwn yn rhannu uchafbwyntiau allweddol o’r gynhadledd ar ein tudalen LinkedIn. Defnyddiwch hashnod #OneBig2025 i ymuno yn y sgwrs!
Ffotograffiaeth a fideo
Cynhelir ffotograffiaeth a ffilmio dros y dau ddiwrnod.
Dim ond ar gyfer gweithgareddau marchnata, a all gynnwys sylw ar ein gwefan, LinkedIn a deunyddiau hybu’r digwyddiad, y defnyddir pob ffotograff.
Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gasglwn ei rhoi i unrhyw reolwyr trydydd parti a dim ond Cartrefi Cymunedol Cymru fydd yn ei defnyddio.
Gofynnwyd i bob cynrychiolydd pan oeddent yn archebu i roi cydsyniad i ffotograffau. Rhoddir laniard coch gyda’u bathodyn i’r rhai a ofynnodd am beidio cael eu cynnwys mewn ffotograffau. Os ydych wedi newid eich meddwl neu os cafodd yr archeb ei gwneud gan rywun arall, gadewch i ni wybod pan fyddwch yn casglu eich bathodyn wrth y ddesg gofrestru.