Jump to content

Diweddariad polisi: Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Tachwedd 20, 2025 @ 3:00yh
Pris Aelod

Rhydd

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymuno â ni ar gyfer sesiwn sbotolau i fanylu sut y bwriadant i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gael ei roi ar waith.

Mae dogfen cwestiynau cyffredin, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, eisoes ar gael i gymdeithasau tai yn adran diweddariadau deddfwriaethol yr Hyb Tai. Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle i gymdeithasau tai ofyn eu cwestiynau dilynol i Lywodraeth Cymru a chymryd rhan mewn trafodaeth bellach.