Asesu’r Effaith ar Iechyd, Tai a Rheoliadau newydd Cymru ar Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd
Rhydd
Mae’r sesiwn yma yn rhoi trosolwg o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, beth ydynt, sut mae’r broses yn gweithio a sut y gall ychwanegu gwerth i waith darparwyr tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) a’u partneriaid mewn ffordd gymesur ac ymarferol.
Bydd y sesiwn yn ymchwilio’r cysylltiadau rhwng tai ac iechyd a dangos sut y gall yr Asesiadau gefnogi penderfyniadau mewn tai, datblygu polisi, buddsoddi, adfywio a dulliau gweithredu seiliedig ar le. Bydd yn cynnwys astudiaeth achos Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ym maes tai a iechyd cyhoeddus o ymarfer, gan ddangos sut y gellir rhoi’r Asesiadau ar waith mewn cyd-destun tai byd go iawn.
Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi trosolwg o Reoliadau newydd Cymru ar Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, a ddaw i rym ar gyfer cyrff cyhoeddus ym mis Ebrill 2027. Bydd yn ystyried beth yw ystyr y rheoliadau ar gyfer cyrff cyhoeddus a’u partneriaid, a pham eu bod yn berthnasol i ymarferwyr tai a LCC sy’n gweithio yng Nghymru.
Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer Datblygu Proffesiynol Parhaus a dysgu ar gyfer gweithlu ehangach tai, iechyd a sector cyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig, gan gefnogi ymarferwyr i ddeall rôl Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd i wella iechyd a gostwng anghydraddoldeb iechyd drwy bolisi ac ymarfer yn y maes tai ac yn ehangach.