Symposiwm Adnoddau Dynol CHC/Hugh James
Rhydd
Dechreuwch 2025 gyda chysylltiadau dylanwadol, trafodaethau ystyrlon a gwybodaeth i’w roi ar y gweill.
Yng nghyfarfod diwethaf uwch swyddogion Adnoddau Dynol yng Nghymuned Aelodau CHC, dywedodd cydweithwyr eu bod yn awyddus i gael mwy o gyfleoedd i ryngweithio wyneb i wyneb, felly rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid masnachol Hugh James i wneud i hynny ddigwydd.
Yn y digwyddiad hwn a gynhelir yn swyddfeydd Hugh James yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, bydd Rhian Evans, Cadeirydd Cymuned Aelodau Adnoddau Dynol a Giles Taylor, yr Is-gadeirydd, yn agor y sgwrs i ddynodi’r heriau sy’n llunio’r tirlun Adnoddau Dynol.
Bydd Louise Price, Partner a Phennaeth Gwasanaethau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol Hugh James, wedyn yn helpu i’n llywio drwy’r enillion cyflym a strategaethau ymarferol a all wneud gwahaniaeth, gan osod y cywair ar gyfer blwyddyn lwyddiannus i ddod.
Bydd y symposiwm hefyd yn cynnwys trafodaeth gyda ffocws ar TUPE ac uno.