Cynhadledd Flynyddol 2025 | Tai cymdeithasol mewn cyfnod o newid patrymau
£355
£469
Rydym yn byw mewn cyfnod o’r hyn sy’n teimlo fel newid na welwyd ei debyg, bydded hynny yn gymdeithasol, gwleidyddol, economaidd neu ddiwylliannol. Caiff y newidiadau hyn eu teimlo ar draws y sector tai cymdeithasol, p’un ai mewn adeiladu cartrefi newydd neu ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer tenantiaid.
Daw’r gynhadledd hon ag arweinwyr ynghyd o bob rhan o’r sector tai a thu hwnt i ofyn – sut fedrwn ni addasu i newid i gyflawni ar gyfer tenantiaid a chymunedau?
Gyda’n gilydd byddwn yn ymchwilio amrywiaeth o faterion cymhleth sy’n wynebu arweinwyr tai, o ddefnydd cynyddol gyffredin o ddeallusrwydd emosiynol; mater anodd ymgysylltu â thenantiaid mewn oes o gamwybodaeth; i etholiadau 2026 i Senedd Cymru ar y gorwel, a’r canlyniadau a allai fod yn bwysig iawn.
Gwyddom i gyd fod tai da wrth galon cymunedau a theuluoedd ar draws y gwlad. Mae croesawu ac ymateb i newid yn ein DNA. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio sut mae diwylliant rhagorith y sector yn rhoi’r sbardun delfrydol ar gyfer arloesi yn y cyfnod hwn o newid patrymau.
Ar gyfer pwy mae’r gynhadledd hon?
Cynlluniwyd y digwyddiad hwn ar gyfer arweinwyr o fewn y sector tai yng Nghymru, yn ogystal â’u partneriaid a rhanddeiliaid ehangach.