Jump to content

Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle | 22 Medi 2021

Roedd y sesiwn yma yn rhan o’r Gyfres Cyfraith Cyflogaeth a gaiff ei rhedeg gan CHC mewn partneriaeth gyda Hugh James i helpu timau Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell i baratoi’n dda i fynd i’r afael ag elfennau pobl rheoli pobl sy’n debygol o ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf.

Yn y sesiwn yma, ystyriodd Christine Bradbury ac Emily Thomas o Hugh James Solicitors rai o’r maglau posibl sy’n wynebu cyflogwr pan mae’n penderfynu recriwtio gweithiwr newydd, o safbwynt cydraddoldeb ac amrywiaeth, a hunaniaethau rhywedd cymhleth yn y gweithle. Trafodwyd y materion hyn yng nghyd-destun yr hyn a ddywed y gyfraith a beth ddylai gael ei ystyried fel arfer gorau.