Jump to content

Andrew Martyn-Johns

Cadeirydd (Annibynnol)

Hyfforddodd Andrew fel Cyfrifydd Siartredig a threuliodd tua 30 mlynedd yn gweithio i Deloitte, 20 o'r blynyddoedd hynny fel partner. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn gweithio yn swyddfeydd Bryste, Llundain a Chaerdydd. Dechreuodd weithio gyda chymdeithasau tai yn 1992 a rhwng 2001 a 2008 roedd yn bennaeth gwasanaethau archwilio cenedlaethol a sicrwydd y cwmni ar gyfer y sectorau tai cymdeithasol ac addysg uwch. Bu'n aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy ers 2008 a bu'n gadeirydd y Gymdeithas o 2013 tan ei ymddeoliad o'r bwrdd yn 2018.

Mae hefyd yn aelod o fwrdd Grŵp Cartrefi Alliance lle mae'n cadeirio'r Pwyllgor Archwilio, mae'n aelod wedi'i gyfethol o'r Pwyllgor Archwilio, Risg a Chyllid Shelter UK, yn aelod wedi'i gyfethol ar y Pwyllgor Archwilio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ac mae newydd ymddeol o fod yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio Cronfa Pensiwn ICAEW.

Y tu allan i'r gwaith mae'n mwynhau hwylio cwch ac mae'n arddwr brwd, gan dyfu ffrwythau a llysiau a gwneud ei sudd afal a seidr ei hun.