Jump to content

Gwneud cwyn am eich cymdeithas tai

Os oes gennych broblem gyda’ch cartref cymdeithas tai, dylech:

Cam 1. siarad gyda’ch landlord

Cam 2. gwneud cwyn ffurfiol gan ddilyn eu gweithdrefn cwynion

Cam 3. cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio eich cwyn os ydych yn dal yn anhapus.

Cam 1: Siarad gyda’ch landlord

Os oes gennych broblem mae’n bwysig eich bod yn cysylltu gyda’ch landlord i sicrhau eu bod yn gwybod am y mater ac y gallant gymryd camau i geisio ei datrys. Mae gan gymdeithasau tai yng Nghymru brosesau ar waith i ymateb i atgyweiriadau, rhai digwyddiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol a materion eraill a allai effeithio ar eich cartref a chithau. Mae gwybodaeth yn eich llawlyfr tenantiaeth ar yr hyn y gall neu na all landlordiaid helpu gydag ef, neu gallech edrych ar wefan eich landlord neu gysylltu â nhw. Mae rhestr o’n haelodau a’u gwefannau ar gael yma.

Mae ein haelodau sy’n landlordiaid eisiau darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid, a chartrefi diogel a saff. Byddant yn anelu i weithio gyda chwsmeriaid i ymateb i broblemau a helpu lle medrant. Os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaeth a roddwyd gan eich landlord ar ôl siarad gyda nhw gallwch ddewis gwneud cwyn ffurfiol.

Cam 2: Gwneud cwyn ffurfiol

Gwneud cwyn ffurfiol

Dylai eich landlord fod â pholisi cwynion. Bydd y polisi yn nodi sut i gwyno a beth i’w ddisgwyl, a gall gynnwys amserlenni ar gyfer cydnabod, ymateb i a chynnig datrysiad. Gellir cael y polisi cwynion drwy gysylltu â’ch landlord neu bydd ar gael ar eu gwefan.

Bydd y polisi cwynion hefyd yn cynnwys sut i apelio os nad ydych yn fodlon gyda’r penderfyniad neu’r datrysiad a gynigir.

Cam 3: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ddyletswyddau penodol sy’n eu galluogi i ymchwilio cwynion am wasanaethau tai a ddarperir gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.

Cyn y gallant ystyried unrhyw gwynion, mae’r gyfraith yn dweud fod yn rhaid hysbysu’r landlord am y mater ac mae’n rhaid i’r landlord hefyd fod wedi cael cyfle rhesymol i ddatrys y mater (camau un a dau uchod).

Mae’r Ombwdsmon wedi cyhoeddi cyfres o ddalenni ffeithiau a all helpu i ddweud yr hyn y gellir neu na ellir ei ymchwilio, yn ogystal â chanllawiau ar sut i wneud cwyn i’r Ombwdsmon.

Gall yr Ombwdsmon gyhoeddi canfyddiadau a llyfr achos i gefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau penodol lle gall fod materion sy’n effeithio ar nifer o sefydliadau.

Ein Rôl

Ni all Cartrefi Cymunedol Cymru ymateb i faterion a godir gan denantiaid neu gwsmeriaid unigol cymdeithasau tai. Gweithiwn gyda’n haelodau i godi ymwybyddiaeth o bolisi cenedlaethol, hysbysu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar ran ein haelodau am faterion a gaiff eu rhannu, a rhoi llwyfan i’n haelodau ddysgu gan ei gilydd.