Jump to content

Gweinyddydd Aelodaeth a Phartneriaethau

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru.

Mae gennym dîm polisi deinamig sy’n cwmpasu ystod o feysydd, o ddatblygu cartrefi newydd i gymorth ar gyfer pobl agored i niwed.

Rydym yn gweithio ar y cyd ac yn hyblyg i ateb anghenion amrywiol ein haelodau. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Polisi a Materion Allanol a gallech fod yn rheolwr llinell staff o fewn y tîm.

Rydym yn edrych am Gweinyddwr Aelodaethau a Phartneriaethau medrus ac ymroddedig i gefnogi timau sy’n gweithio gyda’n haelodau a’r cyhoedd. Mae’r swydd yn allweddol wrth gyflwyno prosiectau a gwasanaethau integredig drwy gyfathrebu effeithiol a digwyddiadau sy’n gwneud argraff.

Am y Rôl


Ydych chi yn weithiwr proff esiynol rhagweithiol a gyda ff ocws ar y cwsmer gyda thalent am feithrin perthynas a rheoli partneriaethau allweddol? Rydym yn edrych am Weinyddydd Aelodaeth a Phartneriaethau i ddarparu cymorth rhagorol i’n haelodau a phartneriaid corff oraethol, gan sicrhau gweithrediadau ac ymgysylltu llyfn.

Yn y swydd ddeinamig hon, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau, gan gyfl wyno gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a chynnal a diweddaru ein system CRM i sicrhau ei bod yn gywir a pherthnasol. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda chynllunio digwyddiadau, creu cynnwys a gweithgareddau marchnata, gan fod â rôl hanfodol mewn cryfhau profi ad aelodau CHC a meithrin partneriaethau gwerthfawr. Os ydych yn ff ynnu mewn amgylchedd cyfl ym, yn mwynhau datrys problemau ac eisiau cyfrannu at dwf y sector tai yng Nghymru, dyma’r swydd i chi.

Sut i Wneud Cais

Mae’r manylion dilynol yn y pecyn swydd hwn: disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth am delerau ac amodau.

  • Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
  • Ffurflen gais, y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn ateb y meini prawf profiad a nodir yn y rhan ‘yr hyn rydym yn edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau’r swydd.
  • Mae’n RHAID i chi hefyd gyflwyno CV wedi ei deilwra yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na thair tudalen).
  • Ffurflen cyfle cyfartal. Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth ar ôl ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â, Louise Price-David.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi, CV a’r ffurflen cyfle cyfartal drwy e-bost wedi’i marcio yn Preifat a Chyfrinachol – Gweinyddydd Aelodaeth a Phartneriaethau to recruitment@chcymru.org.uk erbyn 12pm ar ddydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025.

Caiff pob ffurflen ei chadw am chwe mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus ac i gefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.

Cynhelir cyfweliadau ar 31 Gorffennaf 2025

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais wedi’i gwblhau.