Dewch yn bartner masnachol i CHC yn 2026
Mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn darparu tua 174,000 o gartrefi fforddiadwy safon uchel ynghyd â gwasanaethau cymorth hanfodol sy’n cyfoethogi bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn.
Mae’r 30 sefydliad a gynrychiolwn yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’w tenantiaid a datblygu datrysiadau arloesol gan lywio eu ffordd drwy newid ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd, ond ni allant wneud hynny ar eu pen eu hunain.
Mae ein haelodau angen cymorth a chyngor arbenigol sefydliadau sy’n rhannu gweledigaeth y sector o ddarparu mwy a gwell cartrefi, adeiladu lleoedd tecach a grymuso cymunedau i ffynnu. Dyna lle daw ein partneriaid masnachol i mewn iddi.
Pwy yw ein partneriaid ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd cawn ein cefnogi gan 11 busnes blaenllaw sy’n arwain y diwydiant, yn cynnwys cwmni cyfraith 100 Uchaf Hugh James, yr arbenigydd caffael CHIC a’r brocer ynni Utility Aid.
Mae ein partneriaid hefyd yn weithredol mewn meysydd fel yswiriant, pensiynau, trysorlys, glanweithdra a datblygu

Beth sydd ynddo i chi?
Mae llawer o fuddion i bartneriaeth fasnachol gyda CHC, yn cynnwys:
- Cwmni dethol: Dod y man yr aiff cymdeithasau tai ato yn eich maes arbenigedd
- Amlygrwydd: Hybu eich brand, tyfu eich presenoldeb a dod yn bartner dibynadwy
- Perthynas: Adeiladu a meithrin partneriaethau hir-sefydlog gyda landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru
Ond mae mwy! Yn y fideo isod mae Louise Price-David, ein Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau, yn esbonio sut y cefnogwn ein partneriaid masnachol yn CHC.
Am bwy ydyn ni’n edrych?
Rydym yn gweithio’n barhaus i dyfu ein rhwydwaith o bartneriaid fasnachol fel y gallwn ehangu ystod yr arbenigedd sydd ar gael i’n haelodau.
Y sectorau y mae ein ffocws arnynt ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yw:
- Cyfathrebu
- Cyfrifeg
- Deallusrwydd artiffisial a thrawsnewid digidol
Hyd yn oed os yw eich arbenigedd mewn maes arall neu eich bod yn gweithio mewn meysydd y mae ein partneriaid presennol yn weithredol ynddynt, rydym bob amser yn agored am sgwrs. Mae digonedd o opsiynau yn dal i fod i gefnogi cymdeithasau tai a chydweithio gyda ni, yn cynnwys cyfleoedd nawdd.
Gwneud cais i ddod yn bartner masnachol heddiw
Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfle yma, cyflwynwch Ddatganiad Diddordeb yma yn erbyn dydd Gwener 9 Ionawr 2026 os gwelwch yn dda neu gysylltu gyda Breanna Garbett-Davies i drefnu sgwrs.