Jump to content

Ymunwch â ni fel Partner Masnachol ar gyfer 2025 / 2026

Mae cymdeithasau tai yn darparu tua 174,00 o gartrefi cynnes, diogel a fforddiadwy ledled Cymru, ynghyd â gwasanaethau cymorth hanfodol sy’n gwella bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn.

Fel y corff masnach sy’n cynrychioli cymdeithasau tai Cymru, rydyn ni yn Cartrefi Cymunedol Cymru yn falch i gefnogi ein 33 aelod yn y gwaith hollbwysig yma. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda sefydliadau partneriaeth blaenllaw ym mhob rhan o’r wlad i hybu ein gwaith.

Ar hyn o bryd cawn ein cefnogi gan nifer o fusnesau blaenllaw, yn cynnwys cwmni cyfraith 100 Uchaf Hugh James, yr arbenigydd caffael CHIC a’r brocer ynni Utility Aid. Mae gan y partneriaid masnachol hyn ran hanfodol wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

Rydym yn awr yn edrych am bartneriaid newydd i ymuno â’r sector.

A collage of images depicting the exhibition stands of four of our commercial partners at the CHC One Big Conference 2024
Fel partner masnachol, bydd yn gallu lleoli eich brand wrth ochr arweinwyr y sector yn ein cynadleddau

Pam dod yn bartner masnachol?

  • Cyrraedd cynulleidfa eang: cysylltu gyda’r sector tai a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru.
  • Esgyn eich brand: lleoli eich brand wrth ochr arweinwyr y sector yn ein cynadleddau, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau gwybodaeth, sesiynau sbotolau a gweminarau.

  • Cynyddu sylw i’r eithaf: cysylltu gyda’r sector tai drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefan a chyfathrebu uniongyrchol gydag aelodau.

  • Mynediad i wneuthurwyr penderfyniadau allweddol: ymgysylltu gyda phrif wneuthurwyr penderfyniadau ar draws y diwydiant, o gyfarwyddwyr i benaethiaid gwasanaeth.

  • Siapio’r sector: defnyddio eich arbenigedd i ddylanwadu ar a chyfrannu at ddyfodol sector tai cymdeithasol Cymru.

Beth mae busnesau yn edrych amdano?

Wrth i ni edrych i 2025, rydym yn edrych am bartneriaid a all gynnig gwasanaethau pwrpasol a chymorth arbenigol mewn meysydd allweddol ar gyfer cymdeithasau tai.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn busnesau sy’n darparu cymorth gyda chyfathrebu, ymchwil, cynllunio, adnoddau dynol, y Gymraeg, seibr-ddiogelwch a deallusrwydd artiffisial.


Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner masnachol ond yn ansicr os yw’ch sefydliad yn ateb y proffil, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni. Byddem wrth ein bodd yn ymchwilio sut y gallwn gydweithio i wneud gwahaniaeth.

Cymryd rhan!

I ddatgan eich diddordeb mewn cydweithio gyda ni, llenwch ein Ffurflen Datganiad Diddordeb yn erbyn Dydd Llun 12 Ionawr 2025 os gwelwch yn dda.

I gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Louise Price-David, Pennaeth Aelodaeth a Phartneriaethau, yn louise-price-david@chcymru.org.uk.

Gadewch i ni gydweithio i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru fynediad i gartref diogel, cynnes a fforddiadwy.