Jump to content

Llawr i'w golli: Y cynnydd £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol

Mewn adroddiad a lansiwyd ar 10 Awst 2021, galwodd CHC ar Lywodraeth y DU i ystyried cynlluniau i dorri Credyd Cynhwysol gan £20 yr wythnos o fis Hydref. Medrwch weld yr adroddiad yma.

Y cynnydd o £20 yr wythnos i’r Credyd Cynhwysol

Mae ‘Llawer i’w Golli’ yn cynnwys data a sylwadau gan denantiaid cymdeithasau tai ar draws Cymru ac yn dangos y cafodd yr £20 yr wythnos a ychwanegwyd i’r Credyd Cynhwysol yn ystod pandemig Covid-19 ar gyfer llawer o aelwydydd.

Dengys yr adroddiad fod y £20 yr wythnos a ychwanegwyd i’r Credyd Cynhwysol yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer llawer o denantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae wedi eu helpu i dalu am hanfodion fel bwyd a biliau cyfleustod ar adeg o bwysau ariannol cynyddol.

Mae CHC yn annog yr Adran Gwaith a Phensiynau i beidio torri’r £20 yr wythnos hanfodol yma. Rydym hefyd yn galw arnynt i gyfathrebu ar frys beth yw amseriad penodol unrhyw newidiadau i’r Credyd Cynhwysol i hawlwyr. Mae CHC yn gweithio gyda chymdeithasau tai i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau sydd ar y gweill ymysg tenantiaid yr effeithiwyd arnynt.