Jump to content

Cartrefi: Ar Gyfer Pob Dyfodol | Cenhadaeth Adre o’r Ysbyty i roi diwedd ar y gosb tai ar gyfer cleifion yng Nghymru

Mae cost ddynol yr argyfwng tai yn ddybryd, mae’n effeithio’n ddwfn ar iechyd, cyfoeth a chyfleoedd bywyd ar draws ein cenedl. Credwn fod tymor nesaf y Senedd yn cynnig trobwynt ar gyfer newid. Mae cartrefi da yn seilwaith atal yng Nghymru a rydym angen cynllun cadarn ac ymarferol i roi diwedd ar yr argyfwng tai.

Fel rhan o’n hymgyrch dros newid, Cartrefi: Ar Gyfer Pob Dyfodol, rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i gymryd camau gweithredu cadarn a lansio cenhadaeth adre o’r ysbyty i gael pobl sy’n barod i fynd adre o’r ysbyty yn gyflymach.