Egwyddorion fforddiadwyedd
Yn gryno
Yn 2020, fe wnaethom weithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i ddatblygu set o egwyddorion fforddiadwyedd i arwain dulliau o osod rhent. Mae’r holl gymdeithasau tai yng Nghymru wedi mabwysiadu’r egwyddorion fforddiadwyedd yma, sy’n sail i’w dull o osod rhent yn flynyddol.
Crynodeb llawn
Fforddiadwy: Byddwn yn ystyried cyfanswm costau rhentu cartrefi ac incwm i ddeall beth sy’n fforddiadwy i’n tenantiaid, a sicrhau bod gan denantiaid y cyfle gorau i gynnal eu tenantiaethau a ffynnu.
Cynaliadwy: Byddwn yn gosod rhenti sy’n gadael i ni barhau i ddarparu cartrefi o safon uchel, diogel, cynnes i’r bobl y mae arnynt eu hangen yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ymgysylltu: Byddwn yn cynnwys tenantiaid i ddatblygu ac adolygu ein dull o osod rhent, a bod yn sail i’n penderfyniadau am renti.
Teg: Byddwn yn gweithio i sicrhau bod rhenti a thaliadau eraill yn cael eu gosod yn deg a bod ein cartrefi a’n gwasanaethau yn cynnig gwerth am arian.
Atebol: Byddwn yn agored, tryloyw ac atebol wrth wneud penderfyniadau am renti.
Gyda phwy i siarad...
Rhea Stevens
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd