Digartefedd a rheolaeth tai
Yn gryno
Gall digartrefedd gael effaith drychinebus ar bobl a theuluoedd. Oedran cymedrig marwolaeth pobl sy’n profi digartrefedd yw 44 oed ar gyfer dynion a 42 oed ar gyfer menywod. Gwyddom y caiff traean digartrefedd ei achosi gan broblem iechyd ac, fel canlyniad, mae’n rhaid i ddigartrefedd gael ei ystyried fel argyfwng cyfun mewn iechyd cyhoeddus a thai.
Mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau i fynd i’r afael â digartrefedd, megis gwasanaethau penodol tai â chymorth a gwasanaethau sy’n anelu i atal pobl rhag colli eu cartrefi i ddechrau. Mae achosion digartrefedd yn aml yn gymhleth ac mae angen gweithio partneriaeth i sicrhau fod y gefnogaeth gywir ar gael ar gyfer y rhai mewn risg.
Mae rheolaeth tai yn cynnwys ystod eang o weithgareddau dydd-i-ddydd cymdeithasau tai; o osod cartrefi i denantiaid newydd, gwneud gwaith trwsio a chynnal a chadw, hyd at sicrhau fod cymunedau yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r dulliau a ddefnyddir mewn rheolaeth tai yn esblygu’n barhaus, yn cynnwys defnydd arferion sy’n ymwybodol o drawma.
Ein blaenoriaethau
- Gweithio mewn partneriaeth i ddod â digartrefedd i ben a thynnu sylw at effaith cymdeithasau tai wrth atal a lliniaru digartrefedd.
- Rhoi’r dulliau a’r gefnogaeth i gymdeithasau tai maent eu hangen i ostwng nifer yr achosion o droi allan o gartrefi sy’n troi’n ddigartrefedd
- Darparu polisi ymatebol a chefnogaeth weithredol yn ystod pandemig Covid-19.
- Gweithio gyda chymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ei gweithredu yn llyfn.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith
Mae gan ein grŵp cyflenwi strategol Rheolaeth Tai rôl allweddol wrth lywio ein gwaith yn y maes hwn.
Mae gan gymdeithasau tai rôl bwysig i’w chwarae i ddod â digartrefedd i ben ond ni allwn wneud hynny ar ben ein hunain. Rydym yn gweithio’n helaeth gyda chyrff eraill tebyg i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cymorth Cymru ac rydym yn aelodau o fwrdd ymgynghori cenedlaethol cymorth tai sy’n cynghori gweinidogion Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai.
I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Digartrefedd
- Rheolaeth tai
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Digartrefedd
- Rheolaeth tai