Mae rhaglen Cefnogi Pobl yn gostwng y pwysau ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill – tebyg i dai a digartrefedd, iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol – yn ogystal ag annog pobl i ymgysylltu gyda addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth.
Mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn clywed gennym am bwysigrwydd diogelu cyllid Cefnogi Pobl. Fel arfer caiff y gyllideb ddrafft ei chyflwyno ganol mis Hydref – felly mae’n hanfodol y gwnawn bopeth a fedrwn i ddylanwadu ar ei chynnwys cyn hynny.
Mae cyfnod yr haf yn hanfodol. Bydd Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn arwain yr ymgyrch genedlaethol – ond rydym angen eich help yn lleol er mwyn cael yr effaith fwyaf. Rydym yn eich annog i gysylltu gydag Aelodau Senedd Cymru yn lleol i danlinellu pwysigrwydd cyllideb Cefnogi Pobl, a gofyn iddynt ei ddiogelu.
Lawrlwytho mwy o wybodaeth am yr ymgyrch:
Lawrlwytho