Jump to content

19 Tachwedd 2015

Ystyried tai, ystyried cyflogaeth - adeiladu gyrfa am oes!

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) heddiw (19 Tachwedd) yn lansio ei Her Prentisiaid Cymru gyntaf. Bydd yr her yn cynnig cyfle i 15 prentis, a enwebwyd gan gymdeithasau tai ledled Cymru, i ddatblygu ymgyrch i recriwtio mwy o bobl ifanc i yrfa mewn tai.

Gan weithio mewn timau o bump gyda chefnogaeth mentor, bydd pob tîm yn ymchwilio, datblygu a chyflwyno eu syniadau ar sut y byddent yn annog pobl ifanc eraill i 'ystyried gyrfa - ystyried tai'.

Bydd cynrychiolwyr i'r gynhadledd yn pleidleisio dros eu hoff syniad ymgyrch a bydd Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn cyflwyno tystysgrif i bencampwyr Brentisiaid Cymru.

Mae'r sector tai yn gyflogwr pwysig yng Nghymru. Canfu ymchwil gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU), a gomisiynwyd gan y CHC, fod y sector yn cyflogi 8,800 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn yn 2014/15. Am bob un person a gyflogir yn uniongyrchol gan y sector, caiff bron ddwy swydd arall eu cefnogi yn economi Cymru.

Yn ogystal â swyddi llawn-amser, mae cymdeithasau tai yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd prentisiaethau a chefnogi cyflogaeth, ac wedi buddsoddi £2.1m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ond mae llawer o bobl ifanc yn dal i beidio ystyried y sector fel dewis gyrfa.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp CHC: "Mae canfyddiad weithiau mai llwybrau galwedigaethol cyfyngedig sydd ar gael yn y sector tai. Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal Her Prentisiaid Cymru ac mae'n gyfle gwirioneddol i ni ddangos peth o'r dalent newydd wych sy'n gweithio yn y sector a'r amrywiaeth enfawr o gyfleoedd sydd ar gael.

Mae'r sector tai yn gartref i ystod o gyfleoedd yn amrywio o rolau crefft traddodiadol fel trydanwyr, plymwyr a seiri coed i feysydd ehangach fel adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth, cyfrifeg, ymgysylltu â'r gymuned a marchnata, ymhlith pethau eraill."

Ychwanegodd Stuart: "Gall gyrfa mewn tai fod yn heriol a gwerth chweil ac rydym eisiau denu'r dalent ifanc orau bosibl i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl mewn cymunedau ledled Cymru."

Un o'r prentisiaid sy'n cymryd rhan yn yr her yw Emily Jones o Cartrefi Conwy. Ers ymuno â Cartrefi Conwy fel Prentis Modern, cafodd adolygiadau gwych gan gydweithwyr ar draws y busnes. Dywedodd Emily: "Rydw i'n falch iawn i gael fy newis i gynrychioli Cartrefi Conwy yn yr her o'r prentisiaid a gyflogir a byddaf yn gwneud fy ngorau glas yn ystod yr her i hyrwyddo manteision gweithio fel prentis."

Cafodd Demi Stephenson, un arall sy'n cymryd rhan yn yr Her Prentisiaid, ei swydd fel trydanydd gyda Chymdeithas Tai Cadwyn, ar ôl gweithio'n llawn-amser yn wirfoddol am nifer o fisoedd. Mae tenantiaid Cadwyn a fanteisiodd o sgiliau trydanol Demi wedi canmol ei hagwedd wych at bopeth ac wedi'i galw yn fodel rôl gadarnhaol ar gyfer menywod ifanc eraill.

Cefnogir Her Prentisiaid Cymru gan TSW Training ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cynnig cwrs hyfforddiant am ddim: 'Menter: Eich Gwerthu Chi' i bob prentis sy'n cymryd rhan yn yr her.