Jump to content

06 Mehefin 2019

Yr un sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwirio nodwyddau ag ar gyfer bomiau wrth ymyl y ffordd felly mae sesiwn hyfforddiant ymarferol yn hollol allweddol

Yr un sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwirio nodwyddau ag ar gyfer bomiau wrth ymyl y ffordd felly mae sesiwn hyfforddiant ymarferol yn hollol allweddol
Mae Francesca Burrows, cyn swyddog meddygol yn y fyddin, yn cyflwyno cwrs Ymwybyddiaeth Nodwyddau a Biocemegol ar ran Call for the Wild. Yma mae'n esbonio pam fod dysgu sut i ddiogelu eich hun yn y gwaith yn hollol hanfodol.



Gadewais y flwyddyn ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cyfnod o 12 mlynedd. Mae pawb yn gwybod fod bywyd ar faes y gad yn galed ac mae dysgu sut i oroesi mewn sefyllfaoedd anhygoel o anodd yn rhan o'r gwaith. Deuais yn ôl i Gymru gyda rhai sgiliau byw da ac rwy'n wirioneddol awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad i ddysgu pobl sut i'w diogelu eu hunain pan maent yn y gweithle.


Rwy'n wirioneddol angerddol am ddiogelwch a gwn fod llawer o swyddi allan yna lle mae pobl mewn risg o berygl yn y gwaith - p'un ai yw hynny'n gario nwyddau trwm neu fod yn agored i heintiadau all fygwth bywyd. Dyna pam ei bod yn hanfodol sicrhau arfer iechyd a diogelwch rhagorol.


Mewn tai cymdeithasol, mae'n wirioneddol bwysig fod gweithwyr sy'n mynd i mewn i gartrefi yn gwybod sut i drin risgiau a thrafod eitemau yn y ffordd gywir i osgoi halogiad gan glefydau fel Hepatitis B a HIV.


Tra roeddwn yn cynnal ymchwil ar gyfer cyrsiau, cefais fy synnu gweld fod cynifer o gyrsiau ymwybyddiaeth nodwyddau a biogemegau yn eithaf byr ac yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth. Gan siarad fel cyn-filwr, mae'r sgiliau sy'n rhan o wirio nodwyddau yr un fath ar gyfer gwirio ar gyfer bomiau wrth ochr y ffordd felly mae sesiwn hyfforddiant ymarferol yn hollol allweddol.


Yn Call of the Wild - y cwmni hyfforddiant rwy'n gweithio iddo - rwyf wedi datblygu cwrs sy'n roi trosolwg gwirioneddol realistig o beth mae gwirio tŷ am nodwyddau ac offer miniog yn ei olygu mewn gwirionedd. Dwi ddim yn mynd o flaen gofid - dim ond sefydlu uned wag fel y gallai person ddod ar ei thraws yn ystod diwrnod arferol yn y gwaith, gyda hen gelfi, sbwriel a nodwyddau o amgylch y lle.


Cyn dechrau'r cwrs byddaf yn gosod nodwyddau o amgylch y safle. Yna caiff y cynrychiolwyr sesiwn hyfforddiant ymarferol mewn amgylchedd a gaiff ei reoli fel y gallant ddysgu sut i atal halogiad a thrin nodwyddau ac offer miniog mewn modd diogel.


Wedyn, cânt eu rhannu'n dimau a rhoi ystafell yr un iddynt ganfod cynifer o nodwyddau ac eitemau miniog ag sydd modd.


Anelaf wneud y dydd mor realistig ag sydd modd. Un o fy nhechnegau yw rhoi gwaed ffug ar eu menig. Os oes gwaed ffug ar eu dwylo pan maent yn eu tynnu, byddant yn gwybod yn syth nad ydynt wedi eu tynnu'n iawn. Mewn sefyllfa bywyd go iawn, gall tynnu menig yn y ffordd anghywir olygu halogiad gyda chanlyniadau a all barhau am byth - felly mae'n bwysig eu bod yn dysgu hyn yn ystod sesiwn hyfforddi.


Ar ddiwedd y dydd byddwn yn siarad am brofiadau a byddaf yn dangos iddynt lle cafodd yr holl nodwyddau eu cuddio. Fel arfer dydyn nhw ddim yn dod o hyd iddynt i gyd!


Rwy'n gweithio gyda chymdeithasau tai ar draws Cymru ac wedi cael adborth gwirioneddol da. Yn y pen draw, fy ngwaith yw atal perygl felly rwy'n falch y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad yn y fyddin mewn modd cadarnhaol.


Rydym yn cynnal Cwrs Ymwybyddiaeth o Nodwyddau a Biocemegol Francesca ar 9 Gorffennaf. Cliciwch yma i archebu lle.